Datasets:

Modalities:
Text
Formats:
parquet
Libraries:
Datasets
pandas
License:
cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Datganiad Ysgrifenedig - Yr Adolygiad o Geisiadau Elfen Cymru Gyfan cynllun Glastir
Written Statement - Review of the All-Wales Element Applications under the Glastir scheme
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig
Elin Jones, Minister for Rural Affairs
Ar 23 Tachwedd, cyhoeddais y bwriad i sefydlu adolygiad annibynnol Elfen Cymru Gyfan cynllun Glastir. Byddai'r adolygiad yn canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol ar gyflawni amodau presennol yr Elfen Cymru Gyfan ar y fferm. Byddai hefyd yn rhoi sylw i'r ceisiadau a ddaeth i law ym mis Tachwedd i ymuno â Glastir yn 2012.
On 23 November, I announced the intention to set up an independent review into the All-Wales Element of the Glastir Scheme. The review would focus on the practicalities of on-farm implementation of the current prescriptions available under the All-Wales Element, having regard also to the applications received in November to join Glastir in 2012.
Mae meysydd gweithgarwch allweddol y grŵp adolygu wedi'u nodi yn y cylch gorchwyl ffurfiol, sydd wedi'i atodi i'r datganiad hwn. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o aelodau'r grŵp, a fydd yn cael ei gadeirio gan Rees Roberts, cyn Gadeirydd Hybu Cig Cymru.
The key areas of activity for the review group are set out in the formal terms of reference that I attach. This also includes details on membership of the group that will be chaired by Rees Roberts, the former Chair of Hybu Cig Cymru.
Rwy'n disgwyl i waith y grŵp adolygu ddod i ben cyn mis Mawrth 2011, ac i'r adroddiad gael ei gyflwyno'n uniongyrchol i mi. Bydd unrhyw benderfyniadau a wnaf mewn ymateb i'r adroddiad, ac sy'n arwain at newid amodau presennol Elfen Cymru Gyfan, yn berthnasol i gylch ceisiadau 2011 Glastir (ar gyfer ymuno yn 2013). Bydd yr ymgeiswyr presennol sy'n cychwyn ar gontract Glastir yn 2012 yn cael y dewis i addasu eu contractau yng ngoleuni unrhyw newid i'r amodau presennol.
I expect the work of the review group to be completed before March 2011 and for the report to be presented direct to me. Decisions that I reach in response to the report that result in change to the current prescriptions under the All-Wales Element will be applied to the 2011 Glastir application round (for entry in 2013). Current applicants who enter into a Glastir contract for 2012 would have the option to modify their contracts in the light of any change to the current prescriptions.
Hefyd yn atodedig mae dadansoddiad cryno o'r ceisiadau a ddaeth i law ym mis Tachwedd i ymuno ag Elfen Cymru Gyfan Glastir yn 2012.
Also attached is a summary background on the applications received in November to join the All-Wales Element of Glastir in 2012.
Datganiad Ysgrifenedig - Diwygio’r pac ar ôl 2013
Written Statement - CAP. Reform Post - 2013
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig
Elin Jones, Minister for Rural Affairs
Cyflwyniad
Introduction
Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion polisi lefel uwch ar gyfer llunio’r PAC ar gyfer 2014-2020. Mae’r Comisiwn hefyd wedi dechrau proses ymgynghori.  Bwriad y papur hwn yw rhoi barn gychwynnol Llywodraeth y Cynulliad ar gynigion y Comisiwn.
In November 2010, the European Commission published high-level policy proposals for the shape of the CAP 2014-2020. The Commission has initiated also a consultative process. The purpose of this paper is to set out the Welsh Assembly Government’s initial views on the proposals from the Commission.
Nid yw cynigion y Comisiwn, a’r papur ymgynghori cysylltiedig yn cynnwys unrhyw fanylion ystyrlon i ddatblygu barn ddeallus ar hyn o bryd ar nifer o faterion yn y meysydd hynny lle bydd y penderfyniadau terfynol arnynt yn esgor ar ganlyniadau pellgyrhaeddol i Gymru, a ffermio yng Nghymru, hyd o leiaf 2020.
The Commission’s proposals, and associated consultation paper, lack any form of meaningful detail from which it is possible to reach an informed view at this stage on a range of issues where final decisions will have far reaching consequences for Wales and Welsh farming through to at least 2020.
O ran y PAC ei hun, rwyf wedi’i wneud yn glir yn gyson bod y cyllid sydd ar gael yn gwneud cyfraniad hollbwysig at gynnal ffermio a chynhyrchu bwyd yng Nghymru, yn ogystal â galluogi’r gymuned ffermio i gynnig amrywiol ganlyniadau amgylcheddol sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymdeithas. Mae’r ffordd y mae’r gadwyn fwyd yn gweithio, ac anallu ffermwyr i wneud elw o’r farchnad wedi golygu bod Cynllun y Taliad Sengl PAC yn arferol yn cyfrannu rhwng 80 a 90 y cant o Incwm Busnesau Ffermio.
On the CAP itself, I have been consistent in making clear that the funding available makes a vital contribution in sustaining farming and food production in Wales as well as enabling the farming community to deliver a range of environmental outcomes that are valued by society. Interaction within food supply chain mechanisms, and the inability of farmers to make profitable returns from the market, results in the CAP Single Payment Scheme (SPS) typically contributing between 80 per cent and 90 per cent of Farm Business Income.
Yn ôl y ffigurau incwm diweddaraf ar gyfer 2010, mae’n amlwg y byddai pob sector ffermio yng Nghymru yn anghynaliadwy heb daliadau PAC, er gwaethaf y cynnydd o 16 y cant yn yr incwm o gymharu â 2009, sy’n parhau â’r duedd o gynydd mewn incwm yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae cymorth y Cynllun Taliad Sengl yn bwysig i gadarnhau amcanion strategol Llywodraeth y Cynulliad o wneud amaethyddiaeth yng Nghymru yn gynaliadwy, ac i wneud cynhyrchu bwyd cynradd yn fwy proffidiol ac effeithlon.Cynnal strwythur y PAC a’r strwythur 2 Golofn
On the latest income figures for 2010, it is evident that all farming sectors in Wales would be non-viable without CAP payments, despite a 16 per cent increase in income compared to 2009 building on an increasing income trend in recent years. The SPS support plays a significant role in solidifying Welsh Assembly Government strategic aims for sustainable agriculture in Wales and actions to improve the efficiency and profitability for primary food producers.Maintaining the CAP and the 2 Pillar structure
Yn erbyn y cefndir hwnnw, rwy’n credu’n gryf na ddylid gwneud newidiadau sylweddol i bwrpas sylfaenol y PAC o gynnal incwm ffermwyr, o gynnal lefelau cynhyrchu bwyd, ac o barhau i gynorthwyo camau i reoli’r tir.
Against that background, I am firm in the view that there must not be any fundamental change in the underpinning purpose of the CAP to provide income support for farmers, to sustain food production and to continue to support sustainable land management action.
Fel y Gweinidog o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd â chyfrifoldeb, rwy’n croesawu barn y Comisiwn bod PAC cryf yn hanfodol i sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu o fewn 27 gwlad yr UE, gan roi sylfaen incwm sefydlog i’r diwydiant ffermio, a sicrhau canlyniadau amgylcheddol. Yn fwy na hynny, rwy’n credu ei bod yn bwysig cadw’r strwythur dwy golofn ar gyfer y PAC, gan fod hyn yn rhoi’r sylfaen i sicrhau bod ffermio yng Nghymru’n parhau’n gystadleuol mewn nifer o feysydd, yn ogystal â gwneud cyfraniad allweddol at gydlyniant economaidd ac amgylcheddol cefn gwlad Cymru.
As the responsible Minister within the Welsh Assembly Government, I can welcome the Commission’s view that a strong CAP is essential towards ensuring food production within EU 27, providing a stable income base for the farming industry and ensuring environmental outcomes. Furthermore, I believe it is important to retain the 2 Pillar structure for the CAP as this offers the basis for maintaining the competitive edge of Welsh farming more widely as well as making a key contribution to the socio-economic and environmental cohesion of rural Wales.
Mae ymarferoldeb ffermio a chynhyrchu bwyd yn galw hefyd am reoli ein hadnoddau naturiol yn effeithiol, ac ymateb i heriau’r newid yn yr hinsawdd. Eto, nid wyf yn gweld problem o ran barn gyffredinol y Comisiwn ynghylch cysylltu’r eitemau cymhleth hyn. Mae’r cynllun Glastir yn ymateb penodol o Gymru i gydnabod swyddogaeth allweddol ffermio o ran llywio gweithgareddau cynhyrchu bwyd cynradd mewn ffordd sydd hefyd yn rhoi canlyniadau ehangach o fewn cymdeithas, sy’n gysylltiedig â charbon, pridd, cynefinoedd a rheoli bioamrywiaeth.Cynigion y Comisiwn: Y Materion
Viable farming and food production also require effective management of our natural resources and responding to the challenges of climate change. Again, I have little difficulty with the Commission’s overall position on linking these complex agenda items. The Glastir scheme is a dedicated response from Wales to recognise the key role that farming can undertake in shaping primary food production activities in a way that also delivers on broader societal outcomes associated with carbon, water, soil, habitat and biodiversity management.The Commission’s proposals: The issue
Fy man cychwyn yw y dylai trefniadau Colofn 1 y darperir taliadau uniongyrchol trwyddynt warantu lefel effeithiol a thryloyw o gymorth incwm i ffermwyr ar draws 27 gwlad yr UE. Nid wyf wedi fy mherswadio’n llwyr bod yr opsiwn a ffefrir gan y Comisiwn o roi taliadau sylfaenol, taliad “materion gwyrdd” gorfodol a thaliad dewisol ar gyfer ffermio mewn ardaloedd ymylol yn ffordd resymegol i fynd yn eu blaenau.  Mae diffyg tryloywder, ac nid yw’n rhoi sicrwydd na’r sefydlogrwydd o ran gwerth incwm colofn 1. Ni fydd hyn o gymorth i ffermydd unigol i wneud penderfyniadau cynllunio ar gyfer eu busnesau yn y dyfodol.
My starting position is that the Pillar 1 arrangements under which direct payments are provided should guarantee an effective and transparent level of income support to farmers across EU 27. I am not altogether persuaded that the Commission’s preferred option for providing a basic payment, a mandatory “greening” payment and a discretionary payment for farming in a marginal area is a logical way in which to proceed. It lacks transparency and falls short in providing certainty and stability on the value of the pillar 1 income that will not aid future planning business decisions at individual farm level.
Ar ben hynny, mae’r Comisiwn yn awgrymu y dylid symud mwy tuag at ddosbarthu taliadau uniongyrchol mewn ffordd sy’n decach na’r sefyllfa bresennol, yn enwedig er mwyn mynd i’r afael â’r gwahaniaethau amlwg yn y derbyniadau ar gyfartaledd rhwng 15 aelod blaenorol yr UE a’r Aelod-wladwriaethau diweddar (12 yr UE).
Furthermore, the Commission suggests that there should be a progressive move towards delivering a more equitable distribution in direct payments compared to the current position, in particular to tackle the marked differences in average receipts between the former EU 15 and the newer Member States (EU12).
Er y gallaf gefnogi hyn fel amcan hirdymor, byddai’n rhaid i’r Comisiwn fanylu ar ymarferoldeb hyn. Mae systemau amaethyddol a systemau ffermio ar draws 27 yr UE yn wahanol iawn, ac felly hefyd gostau cynhyrchu ar lefel y fferm, ac mae costau cymharol byw o ddydd i ddydd yn amrywio’n sylweddol o fewn economïau cenedlaethol gwahanol iawn.  Nid yw capio taliadau i ffermwyr mwy yn codi yn aml yng Nghymru, ond rwy’n cefnogi’r egwyddor sylfaenol. Ni fyddai newid capio i ystyried llafur yn gweithio yng Nghymru, ble y defnyddir llafur contract a llafur hunangyflogedig yn rheolaidd yn y sector ffermio.
Whereas I can support this as a long term aspiration, it will be critical for the Commission to spell out in detail how this might work in practice. Agriculture and farming systems across EU 27 are very diverse as are costs of production at farm level and, within very different national economies, there are substantial variations in relative costs of day-to-day living. Capping of payments to larger farms is not a major issue for Wales but I support the general principle. A labour adjustment to capping could be unworkable in Wales where contract and self-employed labour is a regular feature of the farming sector.
Mae angen inni hefyd ystyried y symudiad hwn tuag at ddosbarthu derbyniadau Colofn 1 yn decach rhwng 27 gwlad yr UE yng nghyd-destun newid mawr i’r SPS yng Nghymru, o ganlyniad i symud o’r model SPS presennol arferol yng Nghymru i daliad mwy safonol, neu daliad sy’n seiliedig ar arwynebedd ar gyfer 2014. Rwy’n deall nad oes modd cyfiawnhau cynnal trefn talu uniongyrchol sy’n seiliedig ar lefelau cynhyrchu tua 10 mlynedd yn ôl. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dadansoddi effaith y newid hwn, sy’n dangos yn glir iawn y byddai’r taliadau’n newid yn sylweddol. Dyna paham y byddaf yn dadlau dros gyfnod pontio maith o 5 mlynedd o leiaf, fel y gall ffermwyr addasu i system newydd sy’n seiliedig ar arwynebedd. Nid wyf yn gweld pam fyddai angen cadw cymhlethdod y drefn hawliau bresennol o dan system gyffredinol sy’n seiliedig ar arwynebedd, yn enwedig os y gallwn liniaru’r anawsterau sy’n wynebu ffermwyr newydd neu ifanc o dan y model hanesyddol ar gyfer SPS.
We need also to consider this move for a more equitable distribution on Pillar 1 receipts between EU27 in the context of the significant re-distribution of the SPS within Wales consequent to moving from the current historic SPS model in Wales to a flatter or area based payment from 2014. I am clear that it is not justifiable to maintain a direct payment regime based on production levels achieved some 10 years ago. The Welsh Assembly Government has undertaken an impact analysis on this change that points up starkly that there would be significant redistribution of payments. It is for this reason that I will be arguing for a lengthy transitional period of at least 5 years so that farmers can adapt to an area based payment new system.I do not see why it would be necessary to retain the complexity of the current entitlement regime under a generalised area-based payment system, particularly if we can ease the difficulties that new or young entrants face under the historic model for the SPS.
Mae ‘hyrwyddo materion gwyrdd’ ymhellach yn nhaliadau Colofn 1 yn faes anodd hefyd, gan fod agweddau megis cydymffurfio o ran tir pori parhaol, gorchudd glas, cylchdroi cnydau a neilltuo tir ecolegol yn galw yn anochel am fwy o weinyddu neu ‘fiwrocratiaeth gwyrdd’ sydd yn mynd yn groes i’r agenda o leihau effaith PAC ar fiwrocratiaeth – ar lefel y fferm ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Further ‘greening’ of Pillar 1 payments is also a difficult area as approaches such as compliance in relation to permanent pasture, green cover, crop rotation and ecological set-aside would inevitably require more administration or ‘green tape’ which seems counter to the agenda to reduce the bureaucratic impact of the CAP – at farm level and for the Welsh Assembly Government.
Rwy’n credu y dylai’r drefn drawsgydymffurfio barhau i osod llinell sylfaen ofynnol, a ble y gofynnir i ffermwyr ddarparu gwelliannau amgylcheddol, bod y rhain yn perthyn yn well i gamau o dan golofn 2 ac echel 2 y Cynllun Datblygu Gwledig. Yng Nghymru, mae gennym ddulliau sefydledig o dan y Cynllun Datblygu Gwledig o roi cyllid ar gyfer gweithgareddau rheoli tir yn gynaliadwy. Dyna sut y datblygwyd cynllun Glastir. Mae’r Comisiwn, trwy ei gynnig i “hyrwyddo materion gwyrdd”, yn ceisio defnyddio dull cyffredinol nad yw’n ystyried y datblygiadau sydd wedi’u gwneud gan rai gwledydd fel Cymru. Ni fyddwn eisiau cyfyngu ar y  datblygiadau hyn, a byddaf yn disgwyl i’r Comisiwn gydnabod perfformiad a mentrau sydd eisoes wedi’u sefydlu i gefnogi gweithredu amgylcheddol gan ffermwyr.
I believe that the cross compliance regime should continue to set a minimum baseline and that where farmers are asked to provide environmental enhancements, these more properly belong to actions under pillar 2 and axis 2 of the Rural Development Plan regime. In Wales we have well established mechanisms under the Wales RDP to provide funding for farmers’ sustainable land management actions. That is the way that the Glastir scheme has been developed. The Commission, through its “greening” proposal, is attempting a one-size-fits-all approach that fails to recognise the progress made by certain individual countries such as Wales. I would not want that progress restricted and will be looking to the Commission to recognise past performance and initiatives already in place to support environmental action by farmers.
Rwy’n dal i fod yn erbyn parhau gydag unrhyw fath o gymorth ‘cysylltiedig’ gwirfoddol sy’n aneffeithiol iawn o ran annog ffermwyr i wneud penderfyniadau cynhyrchu sy’n seiliedig ar y farchnad ac sydd hefyd yn arwain at fanteision ac anfanteision cystadleuol rhwng Aelod-wladwriaethau. Dechreuodd Cymru, fel gweddill Prydain, weithredu’r SPS fel cymorth wedi’i ddadgysylltu yn 2005. Nid wyf yn gweld unrhyw achos dros ganiatáu taliadau colofn 1 sy’n uniongyrchol gysylltiedig â lefelau cynhyrchu. Hefyd, ni fyddai rhoi taliadau’n seiliedig ar arwynebedd ar gyfer sectorau a rhanbarthau penodol (gyda chyfyngiadau naturiol penodol) yn golygu cyllid ychwanegol; yn hytrach, byddai cymorth o’r fath yn dod trwy “frigdorri”, a fyddai’n arwain at daliadau llai i’r mwyafrif, ac ar yr un pryd yn ychwanegu elfen ychwanegol o gymhlethdod gweinyddol.
I remain opposed to continuing any form of voluntary coupled support that does little to encourage farmers to make market based production decisions and also leads to competitive advantages and disadvantages between Member States. Wales, as with the rest of the UK, implemented the decoupled SPS in 2005. I see no case for allowing Pillar 1 payments that link directly to production. In addition, providing area based payment support for specific sectors and regions (with specific natural constraints) would not represent extra funding; rather such support would in effect be generated by a “top slicing” mechanism, resulting in reduced payments for the majority while at the same time adding a further element of administrative complexity.
Yna ceir y broblem gymhleth o pwy ddylai dderbyn y taliad PAC, a phenderfynu yr hyn a olygir wrth “ffermwr actif”. Mae’r Comisiwn yn codi pwynt pwysig sy’n cynnwys dau beth sydd wedi’u cydblethu: a yw’r tir yn cael ei ffermio, a sut y gwyddom i bwy y dylid gwneud y taliad ar gyfer y tir hwnnw. Mae dadl gref y dylai’r taliad gael ei roi pan y gellir dangos mai’r tir sy’n cael ei ffermio yw prif ffynhonnell bywoliaeth economaidd y ffermwr. Mae hyn yn codi’r cwestiwn, a oes isafswm o ran faint o dir y gall ffermwr wneud bywoliaeth ohono. Mae amgylchiadau yng Nghymru yn wahanol i weddill Prydain, a hyd yn oed yn fwy gwahanol pan fyddwn yn cymharu ar lefel 27 gwlad yr UE. Mae ein tir ffermio yn adnodd naturiol a chyfoethog y dylid ei ddefnyddio i’r eithaf, er mwyn cynhyrchu bwyd a rhoi manteision amgylcheddol. Er bod yr egwyddor o dargedu ‘ffermwyr actif’ i dderbyn cymorth yn hollol briodol, mae’n amlwg yn anodd gwybod sut i ddiffinio’r term a’r mesurau rheoli.
There is then the complex matter of who should receive the CAP payment and determining what is meant by “active farmer”. The Commission raises an important issue that actually has 2 intertwined aspects: whether the land is being actively farmed and how we identify who the payment for that land should go to. There is a strong argument that payment should be provided where it can be demonstrated that the farmed land is the principal source of economic livelihood. This also begs the question whether there is a minimum size of farmed land from which an economic living can be made. Circumstances in Wales are different to the rest of the UK and even more marked where comparison is made at an EU 27 level. Our farmland is a natural and rich resource that should be used to optimise both food production and environmental benefits. Whilst the concept of targeting support to ‘active farmers’ seems wholly appropriate, there is clearly difficulty around how the term is defined and the control measures.
O ran Colofn 2 a’r cynigion datblygu gwledig, bydd y rhain yn caniatáu inni fod yn fwyfwy cystadleuol o ran amaethyddiaeth a choedwigaeth, i reoli tir yn gynaliadwy, i roi grym i bobl leol ac i adeiladu capasiti mewn ardaloedd gwledig. Mae strategaeth Ewrop 2020 o dwf deallus, cynaliadwy a chynhwysol yn cael ei chefnogi, a’r pwyslais cynyddol ar arloesi i’w groesawu, a byddai strwythur mwy hyblyg yn hwyluso hyn, a hefyd yn caniatáu enillion economaidd ac amgylcheddol trawsbynciol. Mae cynnwys Natura 2000 a HNV mewn mesurau amgylcheddol yn cael eu gwneud eisoes yn Glastir. Felly hefyd, mae’r pwyslais ar gynhyrchu, caffael a datblygu’r farchnad yn lleol yn cyd-fynd yn llwyr â’m polisïau innau.
In terms of Pillar 2 and the rural development the proposals, these will enable us to further our advances in improving competitiveness of agriculture and forestry, managing land sustainably, local empowerment and capacity building in rural areas. The Europe 2020 strategy of smart, sustainable and inclusive growth is embraced and the increased emphasis on innovation is to be welcomed, while a less rigid structure would facilitate this and also enable cross-cutting economic and environmental gains. Integration of Natura 2000 and HNV into environmental measures already fits with Glastir. Similarly the emphasis on local production, procurement and market development sits comfortably with my policies.
Er ei fod yn ddatblygiad i’w groesawu o bosib, mae angen meddwl mwy am y pecyn rheoli risg i fynd i’r afael â risgiau cynhyrchu ac incwm trwy yswiriant a chronfeydd cydfuddiannol, er mwyn gweld a yw’n addas i amaethyddiaeth yng Nghymru.
Although potentially a welcome development, the risk management toolkit approach towards addressing both production and income risks through insurance and mutual funds needs more consideration to determine its appropriateness to Welsh agriculture.
Mater allweddol i’w ddatrys o dan golofn 2 yw’r gyfran anghydradd fu ar gael i Gymru a Phrydain yn hanesyddol. Mae trefniadau cyllido presennol yr UE yn golygu bod Cymru o dan anfantais sylweddol, ac mae’n rhoi pwysau enfawr ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod ei hadnoddau ei hun ar gael i sicrhau bod ganddi raglen ystyrlon o weithredoedd o dan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru. Mae gan y Cynllun presennol ymrwymiad cyffredinol o £795 miliwn o wariant rhwng 2007 a 2013, a £600 miliwn ohono’n cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r ymrwymiad hwn o gyllid domestig yn hollol anghyfartal pan gaiff ei gymharu â gwledydd eraill o fewn 27 yr UE.  Mae’n siom bod dogfennaeth gyhoeddus y Comisiwn yn parhau i beidio â chrybwyll unrhyw gamau sydd i’w cymryd yn y dyfodol i ddelio â hyn.
A key issue to resolve under pillar 2 relates to the inequitable share made available historically to Wales and the UK. The current EU funding arrangements significantly disadvantage Wales and place an enormous pressure on the Welsh Assembly Government to make its own resources available to ensure a meaningful programme of actions under the Wales RDP. The current Plan has an overall spend commitment of £795 million between 2007 and 2013, of which some £600 million is provided directly by the Welsh Assembly Government. This domestic funding commitment is wholly disproportionate when comparisons are made elsewhere within EU 27. It is disappointing that the Commission’s public documentation remains silent on future action.
Yn gysylltiedig â’r agwedd hon ar gyllido, mae dogfennau’r Comisiwn yn osgoi ateb y cwestiwn a fydd “modiwleiddio” yn parhau o dan y drefn PAC wedi 2014. Modiwleiddio yw dull Llywodraeth y Cynulliad o frigdorri’r derbyniadau SPS i gael cyllid i ddatblygu cynlluniau amaeth-amgylcheddol. Mae yna gysylltiad pendant rhyngddo â’r tanwariant hanesyddol ar Gymru gan yr UE o dan drefniadau colofn 2.Casgliad
Related to this funding aspect, the Commission’s documents avoid any reference to whether “modulation” will continue under the CAP regime from 2014. Modulation has been the mechanism by which the Welsh Assembly Government has “top-sliced” the SPS receipts to generate funding to advance agri-environment action by our farmers. It is inextricably linked to addressing the historic under-funding for Wales by the EU under the pillar 2 arrangements.Conclusion
I grynhoi, mae nifer o bwyntiau yn nogfennau’r Comisiwn sy’n cyd-fynd ag anghenion Cymru a’n barn gyffredinol am Ddiwygio’r PAC. Mae’n anodd dod o hyd i fan cychwyn cyffredinol heb fanylion trylwyr. Mae hefyd yn hynod berthnasol bod y cyllid ar gyfer y PAC yn y dyfodol yn cael effaith allweddol. Rwy’n fwriadol wedi osgoi gwneud unrhyw sylw ar y sefyllfa gyllidebol. Nid dyna fwriad y papur hwn. Yr hyn yr hoffwn ddweud yw bod y diffyg manylion ar gyfeiriad y PAC ar ôl 2014 yn ei gwneud yn anodd rhoi barn bositif ar hyn o bryd.
To summarise, there are a number of points in the Commission’s documents that fit well with the needs of Wales and our overall position on CAP Reform.  It is difficult to reach a starting point for the proposals overall in the absence of real detail. It is also highly relevant that the future funding for the CAP will have a key impact. It is deliberate on my part to avoid comment on the budgetary position. That is not the purpose of this paper. What I would say is that the absence of detail on the future direction of the CAP from 2014 does not provide the basis for taking a positive view at this time.
Yn olaf, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol, gallaf ddatgan bod Llywodraeth y Cynulliad yn parhau yn ymrwymedig i ddiwygiadau i’r PAC sy’n:Cynnal y cymorth uniongyrcholYn sylfaen ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwyYn gwneud ein diwydiannau ar y tir yn fwy cystadleuolYn cydnabod swyddogaeth ffermio o ran diogelu a gwella asedau naturiol Cymru; acYn cyfrannu at ddatblygiad economaidd-gymdeithasol ein cymunedau gwledig.
Finally, as the Minister responsible, I can say that the Welsh Assembly Government remains committed to a CAP reform outcome that:Maintains direct supportProvides the basis for sustainable food productionStrengthens the competiveness of our land based industriesRecognises the role of farming in safeguarding and enhancing the natural assets of Wales, andContributes to the socio-economic development of our rural communities.
Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad Diweddaru ar Weithgareddau Dilysu a Phartneriaethau Tramor Prifysgol Cymru
Written Statement - Update on the University of Wales’ Overseas Validation and Partnership Activities
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Leighton Andrews, Minister for Children, Education and Lifelong Learning
Rwyf am i Aelodau gael gwybod y diweddaraf am hynt fy ymholiadau i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC) a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ar faterion sy’n ymwneud â gweithgareddau tramor Prifysgol Cymru.
I wish to update Members on progress made in my requests to the Higher Education Funding Council (HEFCW) and the Quality Assurance Agency (QAA) on matters relating to the University of Wales’ overseas activities.
Mae Cadeirydd CCAUC wedi ysgrifennu ataf i ddweud bod CCAUC wrthi’n cymryd camau i sicrhau bod Prifysgol Cymru’n cael dod yn rhan o brosesau archwilio a sicrhau ansawdd y Cyngor.  Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, mae’n hynod bwysig sicrhau bod ansawdd Addysg Uwch yng Nghymru o safon rhagoriaeth – ac mae hynny’n cynnwys Prifysgol Cymru.  Bydd ei hymgorffori o fewn prosesau CCAUC yn gam pwysig yn hynny o beth.
The Chair of HEFCW has written to me advising me that HEFCW are pursuing actions to ensure that the University of Wales is incorporated into the Council’s audit and assurance processes. As I have stated before, it is of critical importance to ensure that the quality of Welsh Higher Education is held to standards of excellence – the University of Wales can be no exception.  Incorporating them into HEFCW processes will, therefore, be an important step.
Mae Prif Weithredwr y QAA wedi ysgrifennu i ymateb i nifer o ymholiadau gennyf ynghylch trefn arolygu QAA – yn enwedig sut y mae’n gwerthuso darpariaeth Prifysgol Cymru.  Da gennyf weld felly bod y QAA wedi cynhyrchu canllawiau newydd i Brifysgolion Prydain ar gyfer cynnal partneriaethau tramor.  Dywedodd Mr McClaren wrthyf hefyd bod y QAA wrthi’n ailystyried cwmpas a methodoleg gwaith arolygu’r QAA, hynny o ganlyniad i broblemau diweddar gyda phartneriaethau tramor Prifysgol Cymru.  Byddaf yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau.
The Chief Executive of QAA has written responding to a number of queries I raised concerning QAA’s inspection regime – particularly in relation to the evaluation of the University of Wales’ provision. I note with satisfaction that the QAA have introduced new guidelines into the operation of overseas partnerships by British Universities. Mr McClaren also advises that QAA are considering the scope and methodology of QAA’s review work as a consequence of the recent issues surrounding the University of Wales’ overseas partnerships. I will be kept informed of the developments.
Mae rôl Prifysgol Cymru, heddiw ac yn y dyfodol, ac ansawdd ei darpariaeth yn faterion pwysig.  Rwyf yn awr yn aros am ymateb pellach gan CCAUC ynghylch ei ymchwiliadau ym mis Ionawr i waith dilysu tramor y Brifysgol ac ar adroddiad John McCormick ym mis Chwefror ar rôl y Brifysgol yn y dyfodol, fel rhan o’r Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch.  Bydd aelodau’n cael eu hysbysu am unrhyw ddatblygiadau.
The present and future role of the University of Wales and the quality of its provision is a matter of importance. I now await a further response from HEFCW on its investigations into the University’s overseas validation in January and the report of John McCormick’s HE Governance Review on the future role of the University in February. I will keep members informed.
Datganiad Llafar - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Rhoi Organau a Meinweoedd
Oral Statement - Proposed Organ and Tissue Donation Legislative Competence Order
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Edwina Hart, Minister for Health and Social Services
Ar 12 Ionawr 2011 gwnaeth y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Rhoi Organau a Meinweoedd
On 12 January 2011 the Minister for Health and Social Services made an oral Statement in the Siambr on: Proposed Organ and Tissue Donation Legislative Competence Order.
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink:
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=206821&ds=2/2011#dat1
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=206821&ds=2/2011#dat1
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynolwww.cynulliadcymru.org/Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the followingwww.assemblywales.org/Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Ysgrifenedig - Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc 2011-2015
Written Statement - Youth Engagement and Employment Action Plan 2011 – 2015
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Leighton Andrews, Minister for Children, Education and Lifelong Learning
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Chynllun Gweithredu ar gyfer 'Lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru' ym mis Ebrill 2009.
The Welsh Assembly Government published its Action Plan for ‘Reducing the proportion of young people not in education, employment or training in Wales’ in April 2009.
Ers ei gyhoeddi, mae'r amgylchedd economaidd wedi newid yn ddramatig.  Er bod llawer o waith da wedi'i wneud i gyflawni'r cynllun gweithredu, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd safbwynt ehangach o lawer na chanolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc unwaith iddynt gyrraedd 16 oed.  Rydym wedi edrych yn gyffredinol ar y materion sy'n wynebu pobl ifanc ac ystyried siwrnai plant a phobl ifanc (o'u genedigaeth tan 24 oed) a all ymddieithrio rhag dysgu ac felly sydd mewn perygl o beidio â bod yn berson mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn y dyfodol.
Since its publication, the economic environment has changed dramatically. Although much good work has been done to deliver the action plan, we have, over the past year, taken a much broader view than concentrating specifically on young people once they reach 16 years old. We have looked holistically at the issues young people face and considered the journey of children and young people (from birth to 24 years old) who may become disengaged from learning and who are subsequently at risk of becoming not in education, employment or training- ‘NEET’ - in the future.
Mae tystiolaeth wedi dangos mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella cyfleoedd bywyd plant yw drwy roi cymorth iddynt yn ystod eu blynyddoedd cynharaf, gan dorri'r cylchoedd sy'n rhan o fywydau rhai o'n plant mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, a rhoi cyfle i dyfu, llwyddo a chyflawni.  Bydd profiad pob plentyn neu berson ifanc yn unigryw.  I nifer o'r bobl ifanc hyn gall ymddieithrio rhag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant fod yn ganlyniad nifer o rwystrau a phroblemau yn ystod eu bywydau ifanc.  Ar y llaw arall, bydd y rheini sy'n cael eu hunain, yn annisgwyl ac er mawr syndod, yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, efallai oherwydd un digwyddiad yn eu bywydau, er enghraifft rhywun yn marw yn y teulu.
Evidence has shown that support in the earliest years of a child’s life is the most effective way of improving life chances, breaking the cycles that can exist for some of our most disadvantaged and vulnerable children, and providing a chance to grow, succeed and achieve. Each child or young person’s experience will be unique. For many of these young people disengagement from education, employment and training may be as a result of experiencing multiple barriers and problems throughout the course of their young lives. On the other hand, there will be those who unexpectedly and surprisingly become NEET perhaps owing to a single life event, for example bereavement in the family.
Yn 16 oed, bydd person ifanc sy'n dymuno cymryd rhan mewn dysgu neu ymuno â'r farchnad lafur yn wynebu nifer o faterion a rhwystrau gwahanol. Fel y gwyddom, gall y dirwasgiad effeithio'n andwyol ar gyfleoedd i'r bobl ifanc hyn (16-24 oed) ac yn aml gall olygu anweithgarwch a chyfnodau hir o fod heb waith.  Felly mae angen i ni roi cyfleoedd i bobl ifanc i ennill  sgiliau addas a fydd yn eu harwain at gyflogaeth gynaliadwy.
At 16, a young person who wishes to engage in learning or enter the labour market faces a different set of issues and barriers. As we know, the recession can have an adverse affect on opportunities for these young people (16-24 years old) and can often result in cycles of inactivity and the absence of sustained episodes of working. We therefore need to provide young people with opportunities to gain suitable skills to progress into sustainable employment.
Mae gwaith yn parhau i gefnogi plant a phobl ifanc i gyfranogi. Mae mesurau ataliol yn cynnwys cyhoeddi'r Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol a gyhoeddwyd gennyf y llynedd, y Strategaeth Tlodi Plant a rhaglenni cyfredol megis Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen. Er mwyn cefnogi pobl ifanc o 16 oed ymlaen rhoddwyd pecyn cyllido yn ei le gwerth dros bedwar deg naw miliwn o bunnau, a gyhoeddwyd gennyf yn Uwchgynhadledd Economaidd gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010. Bydd hyn yn ariannu mwy o leoedd ar gyfer hyfforddiant ac addysg.  Roedd hyn yn cynnwys rhagor o arian ar gyfer Addysg Bellach, parhad y Llwybrau at Brentisiaethau a'r Rhaglen Recriwtiaid Ifanc, ac arian ychwanegol i gadw'r Rhaglen Adeiladu Sgiliau a ReAct i weithio yng Nghymru.  O ganlyniad, erbyn hyn mae gennym fwy o bobl ifanc yn aros mewn dysgu a hyfforddiant nag erioed o'r blaen,  sy'n dangos bod y mesurau'n gweithio.  Rydym hefyd yn cadw Lwfansau Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, er mwyn atal pobl ifanc rhag ymddieithrio.
Work is continuing to support children and young people to remain engaged. Preventative measures include the publication of the National Literacy Plan, which I announced last year, the Child Poverty Strategy and existing programmes such as Flying Start and the Foundation Phase. To support young people from 16 years old, we put in place a funding package of over £49 million, which I announced at the Welsh Assembly Government’s first Economic Summit of 2010. This will fund more training and education places. This included extra funding for Further Education, the continuation of the Pathways to Apprenticeships and the Young Recruits Programme and additional funds to keep Skill Build and ReAct working in Wales. As a result, we now have more young people staying in learning or training than ever before which shows that the measures are working. We are also keeping Education Maintenance Allowances (EMAs) in Wales, unlike in England, to prevent young people from disengaging.
Hefyd, y llynedd fe wnaeth Gweinidogion Cymru lofnodi Fframwaith y Farchnad Lafur gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a sefydlu Cyd-fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth i weithio ar lefel weithredol.Mae'n bwysig fod gennym lwybr cwsmer clir yng Nghymru lle mae ein hyfforddiant a'n darpariaeth yn ategu darpariaeth prif ffrwd y Ganolfan Byd Gwaith heb ddyblygu na dargyfeirio ei gwaith. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod cynigion am gymorth a gaiff eu hariannu'n briodol i bobl ifanc o leiaf yn cyfateb i'r rheini sydd ar gael yn Lloegr, a bod gennym atebion arloesol i anghenion penodol ein marchnad lafur.
In addition, last year, Welsh Ministers signed a Labour Market Framework with the Department for Work and Pensions and established a Joint Employment Delivery Board to work at an operational level. It is important that we have a clear customer journey in Wales where our training and provision complements but does not duplicate or divert mainstream provision offered by DWP. We also need to ensure properly funded offers of support for young people here are at least equivalent to those offered in England and that we have innovative responses to the particular needs of our labour market.
Gan adlewyrchu'r flaenoriaeth uchel a roddir i'r agenda hon, y llynedd comisiynais ddau grŵp i ymchwilio i fater ymgysylltiad ieuenctid a'u cyflogaeth yng Nghymru. Roedd un o'r rhain yn grŵp gorchwyl a gorffen allanol o dan gadeiryddiaeth Martin Mansfield o TUC Cymru a oedd yn edrych yn benodol ar beth arall y dylwn ei wneud i wrthsefyll effeithiau'r dirwasgiad ar bobl ifanc. Grŵp gweithredol mewnol o swyddogion oedd y llall, a oedd yn adrodd i mi ar yr hyn sy'n annog plant a phobl ifanc i ymddieithrio o ddysgu yn y lle cyntaf. Cyhoeddodd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru adroddiad hefyd, fel rhan o Ail Adroddiad Blynyddol y Bwrdd 'Symud Ymlaen: Y Sylfeini ar gyfer Twf', a oedd yn edrych ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc mewn ffordd holistaidd.
Reflecting the high priority given to this agenda, last year I commissioned two groups to investigate the issue of youth engagement and employment in Wales. These were an external task and finish group, chaired by Martin Mansfield of Wales TUC which looked specifically at what more we should do to counter the effects of the recession on young people, and an internal operational group of officials which reported to me on what triggers children and young people to disengage from learning in the first place. Our Wales Employment and Skills Board (WESB ) also published a report, as part of the Board’s Second Annual Report ‘Moving Forward; Foundations for Growth’, which looked holistically at youth unemployment.
Fe wnaeth y tri adroddiad ystod eang o argymhellion sydd wedi arwain at ddatblygu Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc.
All three reports made a wide range of recommendations which has led to the development of the Youth Engagement and Employment Action Plan.
Mae'r Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc yn amlinellu dull Llywodraeth Cynulliad Cymru o atal plant a phobl ifanc rhag ymddieithrio o ddysgu a'u cefnogi i ymuno â'r farchnad lafur.  Wrth gwrs, nod cyffredinol y cynllun yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, neu sydd mewn perygl o hynny yn y dyfodol.  Sefydlwyd Uned newydd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru i yrru'r agenda hon yn ei blaen.
The Youth Engagement and Employment Action Plan outlines the Welsh Assembly Government’s approach to preventing children and young people from disengaging from learning and supporting them with entry to the labour market. Of course, the overall aim of the plan is the reduction of the number of young people who are, or at risk of becoming, not in education, employment or training in Wales. A new Unit has been established within the Welsh Assembly Government to drive this agenda forward.
Rydym eisoes wedi llwyddo i gael bargen dda. Mae rhai arferion gwych ledled Cymru sydd wedi cael effaith sylweddol ond mae hon yn agenda heriol iawn sy'n berthnasol i lawer o bortffolios Llywodraeth y Cynulliad. Er gwaethaf setliad heriol gan Lywodraeth y DU, byddwn yn blaenoriaethu hyfforddiant sgiliau, yn anrhydeddu ein hymrwymiad i Lwybrau at Brentisiaethau, ac yn parhau i ganolbwyntio ar ein hagenda o ymgysylltiad a chyflogaeth i bobl ifanc.
We have already achieved a great deal. There is some excellent practice across Wales which has had a significant impact but this is a hugely challenging agenda which cuts across many of the Assembly Government portfolios. Despite a challenging settlement from the UK government, we will prioritise skills training, honour our commitment to Pathways to Apprenticeships, and, continue to focus on our youth engagement and employment agenda.
Bydd angen inni fod yn greadigol, yn arloesol ac yn ysbrydoledig er mwyn datblygu a chyflwyno’r cymorth y mae ei angen i alluogi pobl ifanc i symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy. Yn ystod y 4 blynedd nesaf ein nod yw bod y Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc yn cyflawni hyn ac yn llwyddo i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.
We will need to be creative, innovative and inspirational in order to develop and deliver the support needed to enable young people to move towards and progress into sustainable employment. Over the next 4 years our aim is that the Youth Engagement and Employment Action achieves this and succeeds in reducing the number of young people who are not in education, employment or training in Wales.
Datganiad Llafar - Tywydd Garw Diweddar
Oral Statement - Recent adverse weather
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Carl Sargeant, Minister for Social Justice and Local Government
Ar 11 Ionawr 2011 gwnaeth y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Tywydd Garw Diweddar.
On 11 January 2011 the Minister for Social Justice and Local Government made an oral Statement in the Siambr on: Recent Adverse Weather
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=206628&ds=1/2011#dat2
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=206628&ds=1/2011#dat2
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.org/Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.org/Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Ysgrifenedig - Y diweddaraf am drafodaethau diweddar rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Thrysorlys EM
Written Statement - An update on recent discussions between the Welsh Assembly Government and HM Treasury
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Jane Hutt, Minister for Business and Budget
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i weithio mewn ffordd adeiladol gyda llywodraeth newydd y DU. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod hwn o bwysau ariannol, lle rydym yn wynebu cyllidebau anodd tra’n ceisio gwarchod ein hadferiad economaidd bregus yng Nghymru. Rydym wedi bod yn glir ynghylch lle rydym yn mynd ar drywydd gwahanol, ond rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau adeiladol i ddelio â materion sydd o ddiddordeb cyffredin. Dros y naw mis diwethaf rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod materion sydd o bwys i Gymru, drwy gyfrwng cyfarfodydd personol a thrwy gyfarfodydd pedeirochr y Gweinidog dros Gyllid.
The Welsh Assembly Government has demonstrated its commitment to working constructively with the new UK government. This is particularly critical at these times of financial pressure, where we are facing difficult budgets at the same time as trying to protect our fragile economic recovery within Wales. We have been clear about where we differ, but have continued to have constructive discussions to take forward matters of mutual interest. Over the last 9 months I have had a number of meetings with the Chief Secretary to the Treasury to discuss issues of interest to Wales, including on a bilateral basis and as part of the Finance Minister Quadrilateral meetings.
Roeddwn yn falch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys dderbyn gwahoddiad y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno tystiolaeth ym mis Tachwedd y llynedd, a chefais y cyfle i gwrdd ag ef yn syth ar ôl y sesiwn honno. Cawsom drafodaeth adeiladol ynghylch ystod o faterion cyfredol, ac rwyf bellach wedi cael ateb gan y Prif Ysgrifennydd i’m llythyr yn dilyn y trafodaethau hyn.
I was pleased that the Chief Secretary to the Treasury accepted the Finance Committee’s invitation to provide evidence in November last year, and met with him immediately after that session. We had a constructive discussion across a range of current issues, and I have now received a response from the Chief Secretary to my letter following up these discussions.
Yn ein cyfarfod, canolbwyntiais i a’r Prif Ysgrifennydd ar gynigion y Comisiwn Holtham, ac yn arbennig ar yr angen i roi arian gwaelodol ar waith ar unwaith i helpu i fynd i’r afael â’n tangyllido presennol. Parthed y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr ail adroddiad ar 12 Hydref 2010, rhoddais eglurhad a chadarnhad i’r Prif Ysgrifennydd bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth unfrydol i Lywodraeth y DU roi arian gwaelodol ar waith ar unwaith, ond wedi cytuno mai mater yn y dyfodol i bobl Cymru fyddai pwerau trethu.
In our meeting, the Chief Secretary and I focused on the Holtham Commission proposals, and in particular the need for immediate implementation of a funding floor to help address our current underfunding. Further to our Plenary debate on the second report on 12 October  2010, I clarified and confirmed for the Chief Secretary that the National Assembly for Wales had unanimously endorsed the immediate implementation of a funding floor by the UK government, but had agreed that tax-varying powers would be a future matter for the people of Wales.
Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cynigion Comisiwn Holtham gyda ni ar ôl y refferendwm. Yn hanfodol, mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cytuno y dylai’r trafodaethau hyn gynnwys y cynnig am arian gwaelodol ac mae wedi cytuno y dylai’n swyddogion gwrdd yn y Flwyddyn Newydd i drafod yr agwedd hon ar adroddiad y Comisiwn Holtham.
The Chief Secretary has confirmed that the UK government will consider the Holtham Commission’s proposals with us after the referendum. Importantly, the Chief Secretary has agreed that these discussions should include the proposal for a floor and he has agreed that our officials should meet in the New Year to discuss this aspect of the Holtham Commission’s report.
Dywedais wrth y Prif Ysgrifennydd y bydd eu penderfyniad i ddibrisio’n dyraniadau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn cymryd bron £400m sy’n ddyledus i Gymru y pleidleisiodd Senedd y DU i’w roi i ni. Mae hyn yn hynod o siomedig, yn enwedig yng ngoleuni’r hyn rydym yn gwybod am ein cyllideb dros y blynyddoedd nesaf. Nododd y Prif Ysgrifennydd fy mhryderon ac mae wedi cadarnhau y bydd modd trosglwyddo tanwariant a gynllunnir yn flynyddol o 2011/12 ymlaen. Rwy’n edrych ymlaen at weld y canllawiau llawn ar y system i ni roi sylw arnynt.
I confirmed to the Chief Secretary that their decision to write off our stocks of End Year Flexibility will take away nearly £400 million which is due to Wales, voted to us by Parliament. This is extremely disappointing, particularly in the light of what we know about our budget over coming years. The Chief Secretary noted my concerns and has confirmed that planned underspends will be able to be carried forward on an annual basis from 2011/12 onwards. I look forward to seeing the full guidance on the new system for our comment.
Rwyf i a’r Dirprwy Weinidog dros Dai wedi trafod yn rheolaidd y sefyllfa gyllido anghyson yng Nghymru o ran Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai, ac mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cadarnhau y dylai swyddogion drafod y posibilrwydd o gymhwyso diwygiadau Lloegr at Lywodraeth Cynulliad Cymru, a fyddai’n lleddfu’n pryderon ynghylch colli gwarged.
The Deputy Minister for Housing and I have regularly discussed the anomalous funding situation in Wales with regard to the Housing Revenue Account Subsidy, and the Chief Secretary has confirmed that officials should discuss the possible application of the England reforms to Welsh Assembly Government, which would address our concerns about surrendering surpluses.
Pwysleisiais i’r Prif Ysgrifennydd pa mor bwysig yw Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun trafodaethau cyllideb yr UE. Cadarnhaodd y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried ein safbwyntiau mewn trafodaethau yr UE yn y dyfodol. Yn yr un modd, llwyddais i bwysleisio y byddai’r penderfyniad i beidio ag ailddefnyddio enillion yr Ymrwymiad Lleihau Carbon yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar sefydliadau yng Nghymru.
I emphasised to the Chief Secretary the importance of EU Structural Funds within Wales, particularly in the context of EU budget discussions. He confirmed that the UK government would bear our interests in mind in future EU negotiations. Equally, I was able to press on him that the decision not to recycle the proceeds from the Carbon Reduction Commitment would create significant financial pressures on organisations within Wales.
Byddaf yn rhoi copi o lythyr y Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol, cyn belled â’i fod yn cytuno â hynny, a byddaf yn anfon copi ohono i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwy’n edrych ymlaen at gael trafodaeth barhaus gyda’r Prif Ysgrifennydd ynghylch materion Cymru, ac at barhau â’m trafodaethau rheolaidd gyda’r Cynulliad, ei Bwyllgorau a’i aelodau ynglŷn â materion ariannol a chyllido allweddol
I will place a copy of the letter from the Chief Secretary to the Treasury in the National Assembly Library subject to his agreement and will send a copy to the Chair of the Finance Committee. I look forward to ongoing engagement with the Chief Secretary on issues for Wales, and to continuing my regular discussions with the Assembly, its Committees and members, on key financial and funding matters.
Datganiad Ysgrifenedig - Newidiadau i gynllun lwfans cynhaliaeth addysg Cymru
Written Statement - Changes to the Educational Maintenance Allowance Wales scheme
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Leighton Andrews, Minister for Children, Education and Lifelong Learning
Cyflwynwyd cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn 2004/05. Yn 2005/06, cafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed, a phobl ifanc 18 oed yn 2006/07. Lwfans wythnosol yw prif ran yr LCA, sy’n gysylltiedig â phresenoldeb boddhaol ac yn cael ei dalu i ddysgwyr cymwys sy’n mynychu canolfannau dysgu yng Nghymru.
The Education Maintenance Allowance (EMA) Wales scheme was introduced for 16 year olds in 2004/05. In 2005/06, the scheme was extended to include 16 and 17 year olds and, in 2006/07, 18 year olds. The principal component of EMA is a weekly allowance, linked to satisfactory attendance, paid to eligible learners attending learning centres in Wales.
Nod yr LCA yw mynd i’r afael â’r berthynas rhwng incwm isel a diffyg cyfranogiad drwy roi cymhelliad ariannol i bobl ifanc o gartrefi incwm isel aros mewn addysg amser llawn ar ôl addysg orfodol.
The aim of EMA is to address the link between low income and low participation by providing a financial incentive to young people from low-income households to remain in full-time education beyond compulsory education.
Pan lansiwyd y cynlluniau LCA yn genedlaethol yn 2004, cytunodd cynrychiolwyr llywodraeth y DU a phob un o’r gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, y byddai cymorth drwy’r cynlluniau LCA ar gael i ddysgwyr ledled y DU yn ôl ble maent yn astudio yn hytrach nag yn ôl ble maent fel arfer yn byw.
When the EMA schemes were launched nationally in 2004 it was agreed by representatives of the United Kingdom Government and all the devolved administrations including the Welsh Assembly Government that support from the EMA schemes would be open to learners from across the UK according to where they study, not where they are ordinarily resident.
Ym mis Gorffennaf 2010, cyhoeddais newidiadau i gynllun LCA Cymru o 2011/12 ymlaen a fyddai’n sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y mannau lle mae’n cael yr effaith fwyaf. Mae’r trefniadau ar gyfer rhoi’r newidiadau ar waith hefyd yn amddiffyn y rheini sy’n derbyn yr LCA ar hyn o bryd, a fyddai bellach yn anghymwys o dan y cynllun LCA, nes iddynt gwblhau’u cyrsiau. Byddant yn cael eu hamddiffyn cyn belled â’u bod yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r trothwy incwm gwreiddiol.
In July 2010 I announced changes to the EMA Wales scheme from 2011/12 which would ensure a focus where the scheme has most impact.  The arrangements for implementing the changes also protect those currently in receipt of EMA, who would no longer be eligible under the new scheme, until completion of their course.  This protection is subject to continuing to meet the original eligibility and income threshold criteria.
Ar 20 Hydref, cyhoeddodd y Canghellor George Osborne i Senedd y DU y byddai’r cynllun LCA yn cael ei ddiddymu yn Lloegr, gyda chynllun gwahanol yn ei le. Mae swyddogion yr Adran Addysg wedi cadarnhau y bydd y cynllun yn Lloegr yn dod i ben yn llwyr ar 31 Awst 2011. Yn ei le, bydd cronfa uwch cymorth dewisol i ddysgwyr (DLSF) i’r rheini sy’n wynebu caledi difrifol.
On October 20 the Chancellor, George Osborne, announced to the UK Parliament that the EMA scheme in England would be abolished and replaced. Officials from the Department for Education have confirmed that the scheme in England will close entirely on 31 August 2011. It is being replaced with the enhanced discretionary learner support fund (DLSF) for those in extreme hardship.
Heb newidiadau pellach i gynllun LCA Cymru o fis Medi 2011 ymlaen, ni fyddai modd i ddysgwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr wneud cais bellach am LCA. Yn ôl y ffigurau a gafodd eu datgan gan yr Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc yn Lloegr, derbyniodd 897 o ddysgwyr sy’n hanu o Gymru yr LCA gan Loegr yn 2009/10.
Without further changes to the EMA Wales scheme from September 2011, Welsh learners studying in England would no longer be able to apply for an EMA.   According to figures reported by the Young People’s Learning Agency in England, 897 Welsh domiciled learners received the EMA from England in 2009/10.
Felly, gan ystyried yr amgylchiadau hyn, bydd meini prawf cymhwysedd y cynllun o 2011/12 ymlaen yn nodi bod yn rhaid i ddysgwyr fod yn byw yng Nghymru fel arfer (yn hanu o Gymru) i wneud cais i gynllun LCA Cymru. Bydd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n dechrau addysg ôl-16 am y tro cyntaf ac yn astudio mewn rhan arall o’r DU yn gymwys i wneud cais am gynllun LCA Cymru, cyn belled â’u bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd a’r trothwy incwm. Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr hynny sy’n hanu o Gymru ac yn astudio yn Lloegr ar hyn o bryd, gan dderbyn LCA Lloegr, wneud cais fel ymgeiswyr newydd i gynllun LCA Cymru os ydynt am hawlio lwfans yn eu hail a’u trydedd blwyddyn astudio. Bydd modd i unrhyw ddysgwr cymwys sy’n astudio y tu allan i Gymru dderbyn yr LCA cyn belled â bod y ganolfan ddysgu y mae’n astudio ynddi yn rhan o gynllun LCA Cymru. Rydym wedi cysylltu â’r canolfannau dysgu hynny rydym yn gwybod y mae dysgwyr sy’n hanu o Gymru fel arfer yn mynd iddynt er mwyn gweld a ydynt yn fodlon cymryd rhan yn ein cynllun.
Therefore, taking account of this set of circumstances, from 2011/12, the scheme eligibility criteria will specify that learners must be ordinarily resident in Wales (Welsh domiciled) to apply to the EMA Wales scheme.  Welsh domiciles entering post 16 learning for the first time and studying elsewhere in the UK will be eligible to apply to the EMA Wales scheme, subject to meeting personal eligibility and the income threshold criteria.  Those Welsh domiciles currently studying in England and receiving the English EMA will be required to apply as new applicants to the EMA Wales scheme if they wish to claim an allowance in the second and third years of their study. Receipt of EMA by any eligible learner studying outside Wales will be dependent on the participation in the EMA Wales scheme of the particular learning centre at which the learner is studying.  Contact has been made with those learning centres which we know usually have Welsh domiciled learners in attendance, to establish their willingness to participate in our scheme.
Rydym o’r farn bod y newid yn briodol i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr holl ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru sydd fwyaf mewn angen.
We believe the change is appropriate to ensure a focus on all post 16 Welsh learners most in need.
Datganiad Ysgrifenedig - Ffliw tymhorol a phwysau'r gaeaf
Written Statement - Seasonal influenza and winter pressures
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Edwina Hart, Minister for Health and Social Services
Cyn y Nadolig, ysgrifennais ar yr holl Aelodau ynghylch y sefyllfa yng Nghymru o ran y ffliw tymhorol. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r diweddaraf am y sefyllfa ac ar y galwadau ar y GIG yn sgil y ffactorau eraill sy'n peri pwysau y gaeaf hwn, fel norofeirws a'r Rhagfyr oeraf yng Nghymru ers dros ganrif.
Before Christmas I wrote to Members about the situation in Wales in respect of seasonal influenza. This statement updates on the latest position and on the demands on the NHS of other winter pressures such as norovirus and the coldest December in Wales for over 100 years.
Mae'r ffliw yn dal i fod ar gynnydd ledled y DU. Ffliw A H1N1 (2009) a B yw'r feirysau pennaf sy'n cylchredeg, gydag ambell enghraifft o feirysau A (H3N2) wedi dod i'r amlwg hwnt ac yma. Mae'r feirws math H1N1 (2009) yn debyg iawn o ran firoleg ac epidemioleg i'r hyn a welwyd yn ystod y pandemig. Mae'r ffliw tymhorol wedi effeithio ar y DU rhyw fis ynghynt na'r arfer ac ymddengys bod mwy o achosion nag yn y blynyddoedd diweddar, er bod y cyfraddau presennol yn is nag yn ystod pandemig H1N1 2009 ac yn llawer is nag yn ystod yr achos o ffliw tymhorol yn 1999-2000.
Influenza activity continues to increase across the UK.  Influenza A H1N1 (2009) and B are the predominant circulating viruses with few, sporadic A (H3N2) viruses detected. The H1N1 (2009) virus strain is virologically and epidemiologically similar to that seen during the pandemic. Seasonal influenza has hit the UK about a month earlier than normal and appears more prevalent than in recent years, although the current rates remain lower than during the 2009 H1N1 pandemic and much lower than the 1999-2000 seasonal flu outbreak.
Cafwyd cynnydd cyson drwy gydol mis Rhagfyr yng nghyfraddau'r rheini aeth i ymgynghori â'u meddyg teulu. Y gyfradd ymgynghori dros dro ar gyfer y ffliw yng Nghymru yn ystod wythnos 52 (yr wythnos oedd yn dod i ben 2/1/2011), fel yr adroddwyd hi drwy'r Cynllun Sentinel i Feddygon Teulu ar gyfer Gwylio Heintiadau, yw 89.2 ymgynghoriad fesul pob 100,000 o'r boblogaeth. Mae hyn o fewn y diffiniad o weithgarwch tymhorol arferol. Mae hyn yn ostyngiad bach ar y nifer yr ymgynghoriadau yn ystod yr wythnos flaenorol, sef 92.1 fesul pob 100,000 o'r boblogaeth. Mae'r data gan feddygon gwasanaethau y tu allan i oriau arferol, yn ogystal â Galw Iechyd Cymru, yn ystod wythnos 52 yn awgrymu bod y ffliw yn dal i fod ar gynnydd yn y gymuned. Roedd y gyfradd ymgynghori uchaf ymysg y grŵp oedran 25-34 oed (129.2 fesul pob 100,000).
The consultation rates rose consistently throughout December. The provisional consultation rate for influenza in Wales in week 52 (week ending 2/1/2011) reported through the GP Sentinel Surveillance of Infections Scheme, is 89.2 consultations per 100,000 population, which is within the definition of normal seasonal activity. This represents a slight decrease in the number of consultations, from 92.1 per 100,000 the previous week. Surveillance data from Out of Hours doctors and NHS Direct collected during week 52 suggests that influenza activity in the community may still be increasing. Consultation rates were highest in the 25-34 year age-group (129.2 per 100,000).
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, efallai bod y cyfraddau ymgynghori yn sefydlogi ac y byddant yn dechrau gostwng dros yr wythnosau nesaf, er bod lefelau uwch o'r ffliw yn debygol am sawl wythnos i ddod. Dylai'r sefyllfa ddod yn fwy clir wythnos nesaf oherwydd gallai'r patrymau ymgynghori gwahanol dros gyfnod y Nadolig, a'r ffaith bod yr ysgolion ar gau bryd hynny, fod wedi effeithio ar weithgarwch y ffliw hyd at yr wythnos hon.
Indications from Public Health Wales are that the consultation rates may now be levelling out and will begin to reduce in the next few weeks, although elevated influenza activity is likely for several weeks to come. The situation should become clearer next week as activity up to this week may have been affected by different consultation patterns and by schools being closed for the Christmas holiday.
I'r mwyafrif, salwch ysgafn fydd y ffliw. Serch hynny, i nifer fach sydd â chyflyrau meddygol arnynt eisoes, gall y symptomau fod yn fwy difrifol a gall y salwch arwain at gymhlethdodau.
For the majority, the flu is mild, however, for a small number with pre-existing medical conditions, the symptoms can be more severe and lead to  complications.
Dros gyfnod y Nadolig, ailadroddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ei gyngor blaenorol ar frechu rhag y ffliw tymhorol. Hynny yw, dylai pob unigolyn yn y grwpiau risg gael eu brechu cyn gynted â phosibl, yn enwedig y rheini o dan 65 mlwydd oed.  Hefyd, bu'n ystyried mater cynnig brechiad i blant iach, naill ai yn y grŵp oedran 0-4 oed neu yn y grŵp oedran 5-15 oed.  Er bod niferoedd uchel o salwch tebyg i'r ffliw yn y grwpiau oedran hyn ar hyn o bryd, roedd o'r farn bod cyfran sylweddol ohonynt yn sgil feirysau eraill fel y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Ar sail epidemioleg achosion blaenorol o'r ffliw tymhorol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd o'r farn y dylid defnyddio'r brechlyn tymhorol neu bandemig ar gyfer y grwpiau hyn o bobl iach, na grwpiau eraill o bobl iach.
Over the Christmas period, the Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) strongly reiterated its previous advice on seasonal influenza vaccination, i.e that all individuals in risk groups should be vaccinated as soon as possible, particularly those aged less than 65 years.  It also considered the issue of offering vaccination to healthy children either 0-4 years and/or 5-15 years of age. It considered that, although there is a high incidence of influenza-like illness currently in these age groups, a significant proportion of this is due to other viruses such Respiratory Syncytial Virus (RSV). Based on previous seasonal influenza epidemiology, the Committee concluded that it did not believe that seasonal or pandemic vaccine should be used for these or other healthy person groups.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o adroddiadau yn y cyfryngau o brinder brechlynau mewn unedau gofal sylfaenol ac unedau iechyd galwedigaethol. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru i gydgysylltu gwaith i ailddosbarthu'r stociau er mwyn sicrhau cyflenwad yn yr ardaloedd lle mae'r stociau'n isel. Gan ein bod wedi bod yn cynnal ymgyrch ers mis Hydref i annog grwpiau sy'n agored i niwed, fel menywod beichiog a'r henoed, i gael eu brechu, mae'n naturiol y bydd y stociau'n prinhau dros amser. Heddiw (6 Ionawr) mae'r Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at y Gwasanaeth i gefnogi clinigwyr sy'n defnyddio'r brechlyn pandemig Pandemrix fel dewis arall, os ydy'r cleifion yn cael gwybod eu bod yn derbyn brechlyn sy'n amddiffyn rhag y prif fath o feirws sy'n cylchredeg, yn unig.
Members will be aware of media reports of vaccine shortages in primary care and occupational health units. My officials are working with Local Health Boards in Wales to co-ordinate the redistribution of stocks to cover areas where stocks are low. Given that we have been running a campaign since October to encourage vulnerable groups such as pregnant women and the elderly to get vaccinated, it is natural that stocks will run down over time. The Chief Medical Officer is writing today (6 January) to the Service to support clinicians using the pandemic vaccine Pandemrix as an alternative, with patients’ being informed that they are receiving a vaccine that only protects against the dominant circulating strain.
Bydd clinigwyr yn cael eu hatgoffa ei bod yn bwysig rhoi triniaeth brydlon â chyffuriau gwrthfirysol i bobl mewn grwpiau sy'n agored i niwed, a hynny'n ddelfrydol o fewn 48 awr i ymddangosiad y symptomau, waeth beth yw statws y brechlyn. Y rheswm am hyn yw nad yw unrhyw frechlyn yn amddiffyn rhag y ffliw yn gyfan gwbl.
Clinicians will be reminded it is important to treat people with antivirals in at-risk groups promptly, preferably within 48 hours of symptom onset, regardless of vaccination status, as no vaccine gives full protection against influenza.
Cyn y cynnydd diweddar yn yr achosion o'r ffliw, gwnaethom gymryd camau i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o fanteision cael brechiad er mwyn amddiffyn rhag y feirws.   Cynhaliwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd sylweddol ar y ffliw tymhorol yn ystod yr hydref a'r gaeaf, drwy sianeli fel y teledu a'r radio a thrwy bosteri mewn lleoliadau clinigol fel meddygfeydd a chartrefi gofal.  Roedd y deunyddiau yn targedu menywod beichiog. Hefyd, darparwyd gwybodaeth i elusennau a sefydliadau sy'n ymdrin â grwpiau agored i niwed, fel Sefydliad Prydeinig y Galon ac Asthma UK Cymru, ar gyfer eu cylchlythyrau, bwletinau a gwefannau.  Yn ogystal â hyn, darparwyd gwybodaeth drwy sianeli rhwydweithiau cymdeithasol a blogio fel YouTube a Twitter.
In advance of the recent increase in influenza activity, we took steps to raise awareness among the public of the benefits of vaccination to protect against the virus. A substantial seasonal flu publicity campaign was rolled out during the autumn and winter, through channels such as TV and radio, and posters aimed at clinical settings like GP surgeries and for care homes. Materials were produced aimed at pregnant women and charities and organisations related to at-risk groups, such as the British Heart Foundation and Asthma UK Cymru, were supplied with information for their newsletters, bulletins and websites. Information was also sent out through social networking and blogging channels such as YouTube and Twitter.
Drwy gyfrwng ymgyrchoedd diweddar yn y cyfryngau, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi parhau i hyrwyddo'r angen i grwpiau risg (fel menywod beichiog) gael eu brechu. Mae Swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi canllawiau i feddygon teulu yn eu hannog i frechu'r grwpiau hyn. Nid yw'n rhy hwyr i'r grwpiau hyn i gael eu brechu, er bod diwedd y cyfnod pryd y gall y brechiad fod yn effeithiol ar gyfer y tymor ffliw hwn yn prysur agosáu. Gall triniaethau gwrthfeirysol yn ystod camau cynnar y ffliw leihau cymhlethdodau a hyd y salwch. Mae digon o gyffuriau gwrthfeirysol ar gael er bod y dosau hylif ar gyfer plant o dan 1 oed angen cael eu paratoi'n arbennig ac maent ar gael drwy fferyllfeydd ysbytai.
Through recent media activity WAG has also continued to promote the need for risk groups (such as pregnant women) to be vaccinated. The Chief Medical Officer’s Department has also issued guidance to GPs encouraging them to vaccinate these groups. It is still not too late for these groups to become vaccinated, although the window of opportunity for vaccination to be effective during this flu season year is now becoming smaller. Antiviral treatment in the early stages of influenza can reduce complications and the length of illness. Antivirals are widely available although liquid doses for under 1 year olds need special preparation and are available through hospital pharmacies.
Yn ystod tymor y ffliw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad ffliw wythnosol i Gymru. Mae hwn ar gael arwefan yr Is-adran Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymruo'r ddolen:Data gwylio'r ffliw tymhorol i Gymru
During the flu season, Public Health Wales publishes a weekly flu report for Wales which is available from thePublic Health Wales Health Protection Division websitefrom the link:Seasonal influenza surveillance data for Wales
Yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn, mae Norofeirws (neu salwch chwydu'r gaeaf) hefyd yn her i ysbytai ac ysgolion.  Yn gynharach yr wythnos hon, ailadroddodd y Prif Swyddog Meddygol ei gyngor ynghylch rheoli norofeirws ac osgoi ei drosglwyddo o un i'r llall. Roedd y cyngor yn atgoffa pobl y dylent osgoi fynd i'r ysbyty neu at eu meddyg teulu os ydynt yn sâl, oherwydd bydd y byg yn ymledu'n gyflym i gleifion eraill ac i staff.
At this time of year, Norovirus (or winter vomiting disease) also provides challenges to hospitals and schools. Earlier this week, the Chief Medical Officer reiterated advice about how to manage norovirus and how to avoid passing it on. The advice reminded people that if they are unwell, they should avoid coming into hospital or visiting the GP, as the bug will spread quickly to other patients and staff.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud mai prin yw'r dystiolaeth bod norofeirws yn cylchredeg yn y gymuned drwyddi draw.
Public Health Wales have reported that there is little evidence of a community-wide outbreak of norovirus.
Yn ogystal â'r achosion o'r ffliw tymhorol a D&V, mae'r tywydd oer ynghyd â'r rhew a'r eira wedi achosi cynnydd yn nifer yr achosion trawma a byddwn yn disgwyl cynnydd yn nifer yr achosion o drawiad ar y galon, strôc a niwmonia. Mae'r achosion hyn yn cyfrannu at y patrwm o farwolaethau ychwanegol y gaeaf. Gwyddom fod cydberthyniad rhwng hyn a chyfnodau estynedig o dymheredd isel.
In addition to the seasonal flu and D&V outbreaks, the cold weather with ice and snow has caused an increase in trauma cases and we would expect an increase in cases of heart attacks, stroke and pneumonias. These cases contribute to the pattern of excess winter deaths and we know there is a correlation with prolonged low temperatures.
Mae fy swyddogion yn cynnal galwadau cynadledda bob dydd â'r Byrddau Iechyd Lleol i rannu gwybodaeth, monitro'r galw a monitro nifer y gwelyau sydd ar gael, gan gynnwys mewn gofal critigol. Yn gyffredinol, mae'r GIG yng Nghymru yn brysur tu hwnt, ond mae'n ymdopi'n dda â'r galw trymach yn sgil y pwysau ychwanegol sydd yn y gaeaf.
My officials are holding daily conference calls with Local Health Boards to share information, monitor demand and bed capacity including critical care. Overall, the NHS in Wales is extremely busy but coping well with the increased demands of the winter pressures.
Byddaf yn rhoi'r diweddaraf unwaith eto i'r Aelodau yn nes ymlaen yn y mis.
I will provide Members with a further update later this month.
Datganiad Ysgrifenedig - Setliadau refeniw a chyfalaf terfynol llywodraeth leol 2011-12
Writtten Statement - Final Local Government Revenue and Capital Settlements 2011-12
README.md exists but content is empty. Use the Edit dataset card button to edit it.
Downloads last month
39
Edit dataset card

Models trained or fine-tuned on BangorAI/hysbysiadau-llyw-cymru-1