cymraeg
stringlengths 1
11.5k
| english
stringlengths 1
11.1k
|
---|---|
Heddiw, rydym yn cyhoeddi’radroddiad, sy'n edrych ar opsiynau posibl ar gyfer gwasanaeth plismona datganoledig yng Nghymru, gan ystyried yr ystyriaethau ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithredu datganoli. | We are today publishingthe report, which explores potential options for a devolved policing service in Wales, taking into account the practical considerations associated with implementing devolution. |
Nid yw'r adolygiad yn mynegi barn am rinweddau datganoli plismona. Yn hytrach, mae'n egluro – yn fanylach nag sydd wedi’i wneud o'r blaen – y materion y byddai angen eu hystyried wrth wneud hynny. Mae'n gyfraniad hynod werthfawr i'n dealltwriaeth, ac rydym yn ddiolchgar i Carl Foulkes ac i bawb a weithiodd i'w gynorthwyo i lunio'r adroddiad hwn. | The review does not express views about the merits of devolving policing, but it clarifies – at a level of detail not previously produced – the issues which would need to be considered in doing so. It is a hugely valuable contribution to our understanding, and we are grateful to Carl Foulkes and all those who worked to support him in the production of this report. |
Rydym yn ddiolchgar hefyd i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at yr adroddiad. Yn benodol, hoffem ddiolch i brif gwnstabliaid heddluoedd Cymru am helpu'r tîm adolygu i nodi'r materion y byddai angen mynd i'r afael â nhw. | We are also grateful to all those who gave of their time to contribute to this report. In particular, we are grateful to chief constables of Wales’ police forces, for supporting the review team in identifying the issues that would need to be addressed. |
Mae'r adroddiad yn cynnwys camau nesaf penodol i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Bydd hyn yn sail i'n hystyriaethau yn y dyfodol a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr heddlu. | The report contains specific next steps for the Welsh Government to consider. This will form the basis for our future consideration and we will continue to work closely with police partners. |
Byddwn hefyd yn parhau i fwrw ymlaen â gwaith yn y meysydd eraill yr ydym wedi nodi eu bod yn addas ar gyfer datganoli, sef cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. MaeSicrhau Cyfiawnder i Gymru: adroddiad cynnydd, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith yn y meysydd hyn. | We will also continue to take forward work in the other areas we have identified as suitable for devolution – youth justice and probation. TheDelivering Justice for Wales progress report, published last month, provides an update about progress in these areas. |
Datganiad Ysgrifenedig: Estyn Cymorth Ariannol i Deuluoedd ar Farwolaeth Plentyn | Written Statement: Extending Financial Support to Families When a Child Dies |
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Rebecca Evans MS, Minister for Finance and Local Government |
Mae colli plentyn yn brofiad annioddefol i unrhyw deulu. Mae darparu cymorth ymarferol i'r teuluoedd hynny sy'n profi colled o'r fath yn parhau i fod yn bwysig i Weinidogion Cymru. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau tosturiol ac ymarferol i'r rheini yr effeithir arnynt gan golled mor anodd. | The loss of a child is devastating for a family. Providing practical support for those families continues to be important to Welsh Ministers. I am grateful to all partners who help provide compassionate and pragmatic services to those affected by such a difficult loss. |
Yn 2017, cytunodd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru ar drefniadau i ildio ffioedd claddu neu amlosgi ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 oed. | In 2017, the Welsh Government, the Welsh Local Government Association (WLGA) and One Voice Wales (OVW) agreed arrangements to waive burial or cremation fees for children and young people under 18 years old. |
Canfu adolygiad yn 2019 fod y trefniant hwn wedi bod yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau gwell cysondeb mewn perthynas ag ildio ffioedd am gladdu neu amlosgi plant ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd llawer o deuluoedd yn dal i ysgwyddo’r pwysau a'r straen a ddaw wrth boeni am dalu costau eraill sy’n gysylltiedig ag angladd. | A review in 2019 found that these arrangements had provided a positive step in achieving better consistency in relation to the waiving of charges for child burial or cremation across Wales. However, many families were still burdened with the stress and worry about paying for other funeral costs. |
Ers mis Ebrill 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol ychwanegol i helpu gyda’r costau hyn, ac mae £500 wedi bod ar gael i unrhyw deulu yng Nghymru sydd wedi colli plentyn. | Since April 2021, the Welsh Government has provided additional financial support to help towards these costs, with £500 being made available to any family in Wales which has lost a child. |
Mae hwn yn gynnig cyffredinol waeth beth yw incwm y teulu, ond nid oes rheidrwydd arnynt i dderbyn y taliad os nad yw aelodau’r teulu yn dymuno ei gael. Mae'r arian wedi cael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd, megis tuag at gofebau a cherrig beddi yn ogystal â chostau cynnal angladd. | This is a universal offer regardless of the family’s income, although there is no obligation to accept the payment should the family not want it. Families have used the money in a number of ways, including towards the cost of memorials and headstones as well as supporting funeral costs. |
Mae fy swyddogion wedi adolygu'r cyllid gyda chefnogaeth y Gweithgor Profedigaeth Plant, sy'n cynnwys aelodau o bob rhan o lywodraeth leol, y Gwasanaeth Cofrestryddion a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. | My officials have reviewed the funding with the support of the Child Bereavement Working Group, which is made up from members across local government, the Registrars Service and the WLGA. |
Rwyf wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cyllid i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi'r ddwy agwedd ar y trefniant, sef ildio ffioedd a darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd mewn profedigaeth. Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sydd wedi'i ddiweddaru, i ailddatgan ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi'r teuluoedd hyn. | I have agreed that the Welsh Government will continue to provide funding to local authorities to support both aspects of the arrangement – waiving fees and the additional support for bereaved families. An updated Memorandum of Understanding has been signed by the Welsh Government, the WLGA and OVW to reaffirm our collective commitment to supporting bereaved families. |
Datganiad Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 15.2 | Written Statement laid under Standing Order 15.2 |
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd | Lesley Griffiths MS, Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd |
Gosodwyd y Datganiad Ysgrifenedig canlynol gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 15.2: | The following Written Statement has been laid before the Senedd under Standing Order 15.2: |
Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol etc.) 2024 | The Biocidal Products (Health and Safety) (Amendment and Transitional Provisions etc.) Regulations 2024 |
Panel Cynghori ar Aer Glân (CAAP): penodi Cadeirydd newydd | Clean Air Advisory Panel (CAAP): appointment of new Chair |
Mae Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi penodi Cadeirydd newydd ar gyfer y Panel Cynghori ar Aer Glân. | Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change has appointed a new Chair for the Clean Air Advisory Panel. |
Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS wedi penodi'r Athro Paul Lewis yn Gadeirydd Annibynnol newydd y Panel Cynghori ar Aer Glân (CAAP). | The Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters MS has appointed Professor Paul Lewis as the new Independent Chair of the Clean Air Advisory Panel (CAAP). |
Mae'r Panel Cynghori ar Aer Glân yn darparu cyngor ac argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar faterion ansawdd aer yng Nghymru, gan helpu i gefnogi penderfyniadau Gweinidogion Cymru. Mae'r Panel yn llywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o lygredd yn yr awyr yng Nghymru, gan gefnogi datblygiad polisïau i ysgogi gwelliannau mewn ansawdd aer yng Nghymru. Mae aelodaeth o'r Panel yn cynnwys llunwyr polisi amlddisgyblaethol, y byd academaidd ac ansawdd aer ac ymarferwyr iechyd cyhoeddus. | The Clean Air Advisory Panel provides evidence-based advice and recommendations to the Welsh Government on air quality matters in Wales, helping to underpin the decision making of Welsh Ministers. The Panel informs Welsh Government’s understanding of airborne pollution in Wales, supporting the development of policies to drive improvements in air quality in Wales. Membership of the Panel consists of multi-disciplinary policy makers, academia and air quality and public health practitioners. |
Nod y Cynllun Aer Glân yw gwella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi. | A key priority for Welsh Government is to improve air quality and reduce the impacts of air pollution on human health, biodiversity, the natural environment, and our economy. |
Strategaeth ansawdd aer genedlaethol bresennol Llywodraeth Cymru,Cynllun Aer Glân Cymru: Aer Iach, Cymru Iach, ei chyhoeddi yn 2020. Mae'n nodi camau gweithredu eang i wella ansawdd aer yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu mwy o dystiolaeth ansawdd aer gronynnog ac ychwanegu at wybodaeth bresennol i gefnogi datblygiad polisi a deddfwriaethol yng Nghymru. Mae cyngor y Panel yn cefnogi cyflawni'r gwaith hwn. | The Welsh Government’s current national air quality strategy, the Clean Air Plan for Wales:Healthy Air, Healthy Wales, was published in 2020. It sets out wide-ranging actions to improve air quality in Wales. Welsh Government is committed to developing more granular air quality evidence and supplementing existing information to support policy and legislative development in Wales. The advice of the Panel supports the delivery of this work. |
Mae'r Athro Paul Lewis yn docsicolegwr genetig sy'n arbenigo mewn asesu effeithiau llygredd aer ar iechyd. Ar ôl gyrfa hir mewn ymchwil academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mae bellach yn gweithio yn Arloesi Anadlol Cymru ac yn Athro Emeritws yn Ysgol Feddygaeth Abertawe. Ers 2021, ef yw Pencampwr Rhanbarthol Rhaglen Aer Glân UKRI yng Nghymru, gan helpu i gefnogi ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ansawdd aer gwael drwy drafod â'r byd academaidd, diwydiant, llywodraeth leol, gofal iechyd, y sector addysgol a sefydliadau'r trydydd sector. | Professor Paul Lewis is a genetic toxicologist who specialises in assessing the impacts of air pollution on health. After a long career in academic research at Cardiff University and Swansea University, he now works at Respiratory Innovation Wales and is a Professor Emeritus at Swansea’s Medical School. Since 2021, he has been the UKRI Clean Air Programme Regional Champion for Wales, helping support efforts to raise awareness of poor air quality by engaging with academia, industry, local government, healthcare, the educational sector and third sector organisations. |
Bu yn aelod o Banel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru ers 2020, gan gadeirio is-grwpiau ar dargedau llygryddion ac effeithiau iechyd. Yn 2020, arweiniodd adroddiad y Panel ar 'Effeithiau pandemig Covid-19 ar ansawdd aer yng Nghymru'. Mae wedi cyflwyno'r cysylltiadau rhwng ansawdd aer a iechyd ar ran Llywodraeth Cymru mewn digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus i baratoi ar gyfer Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024. Bu hefyd yn aelod o Banel Adolygu Annibynnol Cyfarwyddyd Ansawdd Aer Llywodraeth Cymru ers 2018 ac mae'n aelod o Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru - Deddf Aer Glân i Gymru. Mae pob cyhoeddiad gan y Panel ar gael arwefan Ansawdd Aer yng Nghymru. | He has been a member of the Welsh Government Clean Air Advisory Panel since 2020, chairing sub-groups on pollutant targets and health impacts. In 2020, he led the Panel’s report into the ‘Impacts of the Covid-19 pandemic on air quality in Wales’. He has presented the links between air quality and health on behalf of the Welsh Government at public consultation events in preparation for the Environment (Air Quality and Soundscapes) (Wales) Act 2024. He has also been a member of the Welsh Government Air Quality Direction Independent Review Panel since 2018 and sits on the Welsh Parliament Cross Party Group - A Clean Air Act for Wales. All publications by the Panel are made available on theAir Quality in Wales website. |
Mae'r penodiad hwn wedi'i wneud ar gyfer tymor presennol y Senedd (hyd at fis Mawrth 2026) yn unol â'rCod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, ac ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol. | This appointment has been made for the duration of the current Senedd term (up to March 2026) in accordance with theGovernance Code on Public Appointments, and on merit following an open, competitive process. |
Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol i Gymru | Commercial Procurement and Supply Apprenticeship for Wales |
Llywiwch y dyfodol gyda’r Fframwaith Prentisiaethau Caffael a Chyflenwi Masnachol newydd! | Shape the future with the new Commercial Procurement and Supply Apprenticeship Framework! |
Mae'r Grŵp Llywio Masnachol a Chaffael yn falch iawn o gyhoeddi datblygiad ein Fframwaith Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol cyntaf ar gyfer ein sector. Mae’r fframwaith hwn y mae mawr ei angen yn cynnig dau lwybr ar lefel 3 a 4, wedi’u cynllunio i arfogi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr caffael â’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol. | The Commercial and Procurement Apprenticeship Steering Group is thrilled to announce the development of our first Commercial Procurement and Supply Apprenticeship Framework for our sector. This much needed framework offers two pathways at level 3 and 4, designed to equip the next generation of procurement practitioners with the essential skills and knowledge. |
Cyn cwblhau'r fframwaith, rydyn ni’n gofyn am eich adborth. Bydd eich sylwadau’n ddefnyddiol i sicrhau bod y llwybrau'n mynd i'r afael yn effeithiol ag anghenion esblygol y dirwedd gaffael. | Before finalising the framework, we are seeking your feedback. Your insights will be helpful in ensuring the pathways effectively addresses the evolving needs of the procurement landscape. |
Rydyn ni’n eich gwahodd i adolygu'r fframwaith drafft a'r set o gwestiynau ymgynghori isod. | We invite you to review the draft framework and set of consultation questions below. |
Rhannwch eich sylwadau [email protected] | Please share your views [email protected] |
Hyfforddwr pêl-droed o Lyn Ebwy yn ailafael yn llawn yn y gêm diolch i dechnoleg symudedd | Life changing mobility technology helps Ebbw Vale football coach amputee join in again |
Gall Martin Padfield, 49 oed, a gollodd ei goes 24 o flynyddoedd yn ôl, ymuno yn llawn yn yr hwyl gyda thîm pêl-droed ei fab unwaith eto wedi iddo gael pengliniau prosthetig arbenigol a reolir gan ficrobrosesydd diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. | 49-year-old Martin Padfield, an amputee of 24 years, can join in with his son's football team again thanks to Welsh Government funded specialist Microprocessor Controlled Prosthetic knees. |
Mae Martin yn un o 80 o bobl ar draws Cymru y trawsnewidiwyd eu symudedd gan Bengliniau Prosthetig a Reolir gan Ficrobrosesydd (MPK), ers lansio'r gronfa £700,000 gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl. | Martin is one of 80 people across Wales who have had their mobility transformed by Microprocessor Controlled Prosthetic Knees (MPKs), since the £700,000 Welsh Government fund was launched two years ago. |
Rhannwyd y cyllid ar draws y tair Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC) yn Abertawe, Caerdydd a Wrecsam. | The funding was split across the three artificial limb and appliance centres (ALAC) located in Swansea, Cardiff and Wrexham. |
Mae MPK yn ben-glin prosthetig, a ddefnyddir gan bobl sydd wedi colli eu coes ar neu uwchben y pen-glin. Mae'n gwella ansawdd bywyd pobl trwy sicrhau'r symudedd a'r defnydd gorau posibl. | MPKs are a type of prosthetic knee, used by people who have lost a leg at or above the knee. It improves people’s quality of life by giving the best mobility and function possible. |
Mae'r pen-glin prosthetig yn defnyddio technoleg gyfrifiadurol i roi mwy o sefydlogrwydd ac i alluogi cerdded yn fwy diogel, ac mae'n monitro patrwm cerdded y defnyddiwr yn gyson yn dibynnu ar ei bwysau a'i gyflymder - gan ei wneud yn haws iddo symud ar lethrau, grisiau, ac arwynebau anwastad. | The knee uses computer technology to provide increased stability, enable safer walking and constantly monitors the user’s pattern of walking depending on their weight and speed - making it easier for them to navigate slopes, stairs, and uneven surfaces. |
Mae Martin Padfield wedi hyfforddi tîm pêl-droed dan 13 oed ei fab ers 7 mlynedd ac mae hefyd yn rheolwr peirianneg mewn diwydiant cynhyrchu bwyd prysur. Mae'n byw bywyd egnïol yn y gwaith ac yn ei amser hamdden. | Martin Padfield has coached his son's under 13s football team for the last 7 years and is also an engineering manager in a busy food manufacturing industry. He lives an active lifestyle both in, and outside of work. |
Cafodd Martin ddamwain ffordd ym mis Awst 2000 ac fe gollodd ei goes o dan y pen-glin. | A road traffic accident in August 2000 resulted in Martin losing his leg below the knee. |
Flwyddyn yn ddiweddarach, wedi cymhlethdodau pellach, roedd rhaid iddo golli ei goes uwchben y pen-glin. O ganlyniad roedd allan o waith am bron i dair blynedd. | A year later, further complications caused him to have another amputation above the knee, putting him out of work for almost 3 years. |
Yn 2021, cafodd Martin wybod gan dîm Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Abertawe y byddai'n gymwys i gael MPK. | In 2021, Martin met with the Swansea ALAC team, and was told he would be eligible for an MPK. |
Dywedodd Martin Padfield: | Martin Padfield said: |
Ar ôl colli fy nghoes, fe wnes i ymchwilio'n gyson i ddarganfod beth oedd ar gael i mi. Fe wnes i ddarllen eu bod nhw wedi trawsnewid bywyd pobl a oedd yn byw bywyd egnïol fel fi. | Ever since I lost my leg, I researched constantly about what’s available for me. I read about how life-changing they had been for people who lived a similar active lifestyle to me. |
Cyn 2021, dim ond i gyn-filwyr oedd MPKs ar gael. Felly, edrychais ar ffyrdd o brynu'r gorau i mi fy hun. Ar un adeg, meddyliais am ail-forgeisio fy nhŷ, ond es i ddim mor bell â hynny. | Before 2021, MPKs were available to veterans only. So, I explored the avenues of buying the best myself, and even thought about remortgaging my house at one point, but I never got to that stage. |
Felly, pan glywais fy mod i wedi cael fy newis i gael MPK, alla i ddim rhoi mewn geiriau pa mor hapus o'n i. Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i bob agwedd ar fy mywyd o’r diwrnod cyntaf. | So, when I was told that I had been selected to receive an MPK, I cannot express how elated I was. From day 1 of having the MPK, I can’t put into words how much of an immense difference it has made to every aspect of my life. |
Mae popeth y gallaf ei wneud gydag o wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Mae wedi bod yn chwyldroadol. | Everything I can do with it has been completely life changing. It’s been revolutionary. |
Ychwanegodd: | He added: |
Dw i wedi bod yn hyfforddi’r bechgyn ers saith mlynedd. Ro’n i'n arfer chwarae pêl-droed cyn fy namwain ac roedd hyfforddi’r tîm yn ffordd i mi gael fy niddordeb mewn chwarae pêl-droed yn ôl eto. Ond mae’r MPK yn golygu y gallaf ymuno’n llawnach erbyn hyn, a gwneud mwy na dim ond sefyll ar y llinell ochr a siarad. | I’ve been coaching my boys for 7 years. I used to play football before my accident. And coaching the team was a way of me getting my interest back into playing football again. |
Cyn cael yr MPK, ro'n i'n syrthio yn aml. Byddai'n rhaid i mi ganolbwyntio a meddwl mwy pan o’n i'n cerdded ar dir anwastad neu ar lethr. | But having the MPK means that I can join in a lot more, and I can do more than just standing on the sidelines and talking. |
Nawr, mae gen i hyder 100% yn fy nghoes - weithiau dw i'n anghofio ei fod yno. | Before having the MPK, stumbles weren't common, but they were often. I would have to concentrate and think more when I was walking on uneven terrain or on a slope. |
Dw i'n gwneud popeth mor rhwydd a hyderus o ddydd i ddydd. | Now, I have 100% confidence in my leg - sometimes I forget it’s there. I just go on with my daily duties with so much more ease and confidence. |
Dw i mor ddiolchgar fy mod i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy newis i gael MPK. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd fy mywyd a dw i'n siŵr y byddai unrhyw un arall yn cael yr un profiad hefyd. | I’m so grateful that I was lucky enough to be chosen to have an MPK. It's made a massive difference to my quality of life and I’m sure it would be for anyone else. |
Ro’n i'n fachgen lwcus. Gallai'r darlun fod wedi bod yn llawer iawn tywyllach. Mae bywyd yn dda nawr; does gen i ddim byd i gwyno amdano o gwbl. | I was a lucky boy. It could've been a much darker picture. Life is good now; I've got no complaints at all. |
Diolchodd Martin i dîm ALAC Abertawe am eu hymrwymiad i sicrhau ei fod yn cael y gofal a'r gefnogaeth orau drwyddi draw. | Martin thanked and expressed his gratitude to the Swansea ALAC team for their commitment to ensuring that he had the best care and support throughout. |
Datganiad Llafar: Datganiad Ymddiswyddo | Oral Statement: Resignation Statement |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog | Mark Drakeford MS, First Minister |
Ar 12 Mawrth 2024, gwnaeddatganiad llafar yn y Senedd: Datganiad Ymddiswyddo (dolen allanol). | On 19 March 2024, anoral statement was made in the Senedd: Resignation Statement (external link). |
Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu cyd-bwyllgor dros Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Written Statement: Establishing the Joint Committee for Swansea Bay and Hywel Dda |
Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Eluned Morgan, Minister for Health and Social Services |
Yng Nghymru rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio i ddarparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau. Rwyf am sicrhau bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y trefniadau priodol ar waith i gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd ar sail ranbarthol lle bo hynny'n briodol. Felly, byddaf yn defnyddio fy mhwerau yn unol ag Adran 12(3) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i gyfarwyddo'r ddau fwrdd iechyd i sefydlu Cyd-bwyllgor. Bydd hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau diogelwch, ansawdd a hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y gwasanaethau hyn. | In Wales we expect health boards work together to deliver services for their populations. I want to ensure that Hywel Dda University Health Board and Swansea Bay University Health Board have the appropriate arrangements in place to plan and deliver healthcare services on a regional basis where appropriate to do so. I will, therefore, be using my powers in accordance with Section 12(3) of the National Health Services (Wales) Act 2006 to direct both health boards to establish a Joint Committee. This will be of utmost importance to ensure the continued safety, quality and ongoing viability and sustainability of these services. |
Rwyf i, ynghyd â Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, wedi ysgrifennu at Gadeiryddion a Phrif Weithredwyr y byrddau iechyd i’w hysbysu o fy mwriad. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r ddau fwrdd iechyd dros yr wythnosau nesaf i bennu aelodaeth a chyfansoddiad y Cyd-bwyllgor newydd, ynghyd â sicrhau bod eu cynlluniau tair blynedd yn ddigon uchelgeisiol yn eu hymrwymiad i weithio'n rhanbarthol, gydag amcanion gweithredu allweddol wedi'u pennu. | I, together with the Director General of Health and Social Services/NHS Wales Chief Executive, have written to the Chairs and Chief Executives of the health boards advising them of my intention. My officials will be working with both health boards over the coming weeks to determine the membership and constitution of the new Joint Committee, together with ensuring their 3-year plans are sufficiently ambitious in their commitment to working regionally, with key deliverables identified. |
Bydd y ddau fwrdd iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif am gyflawni'r cynlluniau hyn drwy'r Fframwaith Ansawdd, Perfformiad a Chyflawni a'r Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio’r GIG. | Both health boards will be held to account for the delivery of these plans via the Quality, Performance and Delivery Framework and the NHS Wales Oversight and Escalation Framework. |
Datganiad Ysgrifenedig: Adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol yng Nghymru | Written Statement: Prevention of future deaths reports in Wales |
Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Eluned Morgan MS, Minister for Health and Social Services |
Mae Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn caniatáu i grwner gyhoeddi Adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol Rheoliad 28 i unigolyn neu sefydliad pan fo’r crwner yn credu y dylid cymryd camau i atal rhagor o farwolaethau. Mae adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol yn wahanol i ddyfarniad cwest. Atal amgylchiadau rhag codi neu barhau sy’n achosi perygl y bydd marwolaethau eraill yn digwydd, neu ddileu neu leihau’r perygl o farwolaeth a achosir gan amgylchiadau o’r fath a cheisio atal marwolaethau yn y dyfodol, felly, yw diben yr adroddiad. | The Coroners and Justice Act 2009 allows a coroner to issue a Regulation 28 Prevention of Future Deaths (PFD) Report to an individual or organisation where the coroner believes that action should be taken to prevent further deaths. A prevention of future deaths report is distinct from an inquest verdict. The purpose is to prevent the occurrence or continuation of circumstances that create risks that other deaths will occur or to eliminate or reduce the risk of death created by such circumstances thereby seeking to prevent future deaths. |
Mae unrhyw golled bywyd yn hynod drist ni waeth beth yw’r amgylchiadau. Fodd bynnag, pan fydd marwolaeth yn un y gellir ei hosgoi a bernir bod gweithredoedd y gwasanaeth iechyd wedi ei hachosi, neu wedi cyfrannu ati, mae'n hanfodol bod cyrff y GIG a llywodraethau yn dysgu o'r digwyddiadau hyn er mwyn gwella gwasanaethau iechyd a gofal, a'u bod hefyd yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau na chaniateir i'r amgylchiadau hyn godi eto ac i atal marwolaethau yn y dyfodol. | Any loss of life is extremely sad under any circumstances, but when a death is preventable and deemed to have been caused or contributed to by actions of the health service, it is essential that NHS bodies and governments learn from these incidents to improve health and care services and take all necessary action to ensure these circumstances cannot be allowed to be repeated and prevent future deaths. |
Yn 2023, cyhoeddwyd tua 35% yn fwy o adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol gan grwneriaid yng Nghymru a Lloegr nag yn 2022 – y nifer uchaf ers 2019. Cafodd y pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar system y crwneriaid, ac mae crwneriaid yng Nghymru a Lloegr wedi cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw achosion a oedd yn weddill a helpu i sicrhau adferiad y system cyn gynted â phosibl. | In 2023, coroners across England and Wales issued around 35% more prevention of future deaths reports than 2022 - the highest number since 2019. The COVID-19 pandemic had a significant impact on the coronial system and coroners in England and Wales have taken steps to deal with any outstanding cases and help the system to recover as quickly as possible. |
Yng Nghymru, ers 1 Ionawr 2023, mae crwneriaid wedi cyhoeddi adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol sy'n ymwneud â chyrff GIG Cymru mewn perthynas â 41 o farwolaethau. Mewn rhai achosion, cyhoeddwyd mwy nag un adroddiad mewn perthynas â'r un farwolaeth neu cafodd adroddiad ei gyhoeddi ar y cyd i fwy nag un o gyrff GIG Cymru a/neu i sefydliadau eraill y tu allan i GIG Cymru. | In Wales, coroners have issued prevention of future deaths reports regarding NHS Wales bodies in relation to 41 deaths since 1stJanuary 2023. In some cases, more than one report was issued in relation to the same death or issued jointly to more than one NHS Wales body and/or other organisations outside NHS Wales. |
Yn y cyfnod hwnnw, cafodd 27 o adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol eu cyhoeddi iFwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; 10 i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; chwech i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; dau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; un i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; ac un i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). | In that period, 27 prevention of future deaths reports were issued toBetsi Cadwaladr University Health Board; 10 to the Welsh Ambulance Services Trust; six to Aneurin Bevan University Health Board; two to Swansea Bay University Health; one to Cardiff and Vale University Health Board and one to Health Education and Improvement Wales (HEIW). |
Yn rhinwedd fy rôl fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf wedi cael chwe adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol ers mis Ionawr 2023, a oedd yn ymwneud ag amrywiaeth o wasanaethau GIG Cymru a phryderon iechyd y cyhoedd. | As Minister for Health and Social Services, I have been issued with six prevention of future deaths reports since January 2023, relating to a range of NHS Wales services and public health concerns. |
O'r 27 o adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol a gyhoeddwyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers mis Ionawr 2023, mae pob un ond tri yn ymwneud â marwolaethau a ddigwyddodd cyn uwchgyfeirio'r Bwrdd Iechyd i fesurau arbennig, gan gynnwys un farwolaeth a ddigwyddodd yn 2016. | Of the 27 prevention of future deaths reports issued to Betsi Cadwaladr University Health Board since January 2023, all but three relate to deaths that occurred before the escalation to special measures, including one death which occurred in 2016. |
Er mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, gan wasanaethu ychydig dros 20% o boblogaeth Cymru gyfan, mae nifer yr adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol y maent wedi'u derbyn dros y blynyddoedd diwethaf yn peri cryn bryder. Rwyf wedi pwysleisio fy mhryderon mewn datganiadau blaenorol i Aelodau'r Senedd, ac mewnadroddiadau cynnyddchwarterol ar drefniadau'r mesurau arbennig dros y 12 mis diwethaf. | Whilst Betsi Cadwaladr UHB is the largest health board in Wales, with just over 20% of the all-Wales population, the number of prevention of future deaths reports it has received over recent years is of significant concern. I have highlighted my concerns in previous statements to Members of the Senedd, and in quarterly progressreportson special measures arrangements over the past 12 months. |
Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Cadeirydd a'r Bwrdd yn ehangach, gan ofyn cwestiynau heriol am sut y maent yn bwriadu gwneud y gwelliannau angenrheidiol i ddiogelwch, profiad a chanlyniadau cleifion er mwyn rhoi sicrwydd i bobl y Gogledd fod eu gwasanaethau iechyd yn ddiogel. Mae’r Dirprwy Weinidog hefyd yn cadeirio cyfarfod chwarterol â’r Bwrdd Iechyd i geisio sicrwydd ynghylch iechyd meddwl, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion diogelwch cleifion. | I meet regularly with the chair and the wider board, where I ask some very challenging questions about how they plan to make the necessary improvements to patient safety, experience, and outcomes to provide the people of north Wales with the reassurance that their health services are safe. The Deputy Minister also chairs a quarterly meeting with the health board to seek assurance about mental health, with a specific focus on patient safety concerns. |
Rwyf wedi bod yn glir gyda'r Bwrdd Iechyd fod angen iddynt fynd at wraidd yr hyn sy'n gyfrifol am y digwyddiadau. Rhaid i'r Bwrdd Iechyd fynd i'r afael â'r materion ar draws y system gyfan sydd wedi'u hamlygu yn yr adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol a gyhoeddwyd iddynt. Mae'r materion hynny fel a ganlyn:Ansawdd yr ymchwiliadau ac effeithiolrwydd y camau gweithreduAnsawdd y cynlluniau ar gyfer triniaeth a pharhad gofal, sydd wedi'u heffeithio gan ddiffyg systemau cofnodion iechyd electronig integredigEffaith oedi yn y system iechyd a gofal cymdeithasol ar amseroldeb yr ymateb gan wasanaeth ambiwlans Cymru | I have been clear with the health board that they need to understand the root causes of incidents and address the systemic issues that are apparent in the prevention of future deaths reports issued to the health board. These are:The quality of investigations and effectiveness of actions;The quality of treatment plans and continuity of care impacted by lack of an integrated electronic health record systems; andThe impact of delays in the health and social care system on the timeliness of responses by the Welsh ambulance service. |
Rwyf wedi cael sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd yn llwyr ymwybodol o'r materion a godwyd gan grwneriaid a'u bod yn ystyried y mater hwn yn un hynod ddifrifol. Mae'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Meddygol yn gweithio'n agos gyda chrwneriaid y Gogledd i sicrhau yr eir i’r afael â’u pryderon, ac maent yn ymroddedig i wella eu prosesau ar gyfer ymchwilio i ddigwyddiadau a dysgu ohonynt. | I have received assurances that the health board is fully aware of the issues raised by coroners and is taking this matter extremely seriously. The chief executive and medical director are working closely with both north Wales coroners to ensure that their concerns are addressed, and they are committed to improving their processes for investigating and learning from incidents. |
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi dechrau ar waith i wella gwasanaethau gan gynnwys gwella llif cleifion drwy’r ysbytai, ac allan ohonynt, a gwneud gwelliannau i'r seilwaith digidol. Maent hefyd wedi mynd ati i wella'r broses ymchwilio a gwella sicrwydd ynghylch y cynlluniau gweithredu presennol. | The health board has commenced work to make service improvements including improving the flow of patients through and out of its hospitals, and improvements to the digital infrastructure. It has also established work to improve its investigation process and improve the assurances it can take on existing action plans. |
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu rhaglen ar gyfer dysgu o ymchwiliadau, sy'n cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Meddygol, a’i goruchwylio’n uniongyrchol gan y Prif Weithredwr a'r tîm gweithredol ehangach. Maent yn adrodd yn uniongyrchol i'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiadau ac mae ganddynt broses uwchgyfeirio glir ar waith. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud gwelliannau i'r broses ar gyfer cynnal cwestau, ac maent wrthi'n newid eu prosesau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau a marwolaethau, mae nifer o achosion nad ydynt wedi'u rhestru gan grwneriaid eto sy'n ymestyn yn ôl dros sawl blwyddyn. Yn ôl amcangyfrifon y Bwrdd Iechyd, mae 350-400 o achosion yn aros i gael eu rhestru ar gyfer cwest. Mae'r achosion hyn yn mynd yn ôl i 2019, er bod y mwyafrif yn berthnasol i 2022 ac wedi hynny. | The health board has established a learning from investigations programme, which is led by the medical director, with direct oversight from the chief executive and the wider executive team and reports directly to the Quality, Safety and Experience Committee with a clear escalation process in place. Whilst the health board has made improvements to its inquest process and is making changes to its incident and mortality processes, there are a number of cases yet to be listed by coroners, going back over several years. The health board estimates that there are 350-400 cases awaiting listing for inquest. These cases go back to 2019 although the majority relate to 2022 onwards. |
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal adolygiad o'r holl achosion sy'n agored i'r crwner ac mae camau unioni yn cael eu cymryd fel rhan o'r broses yn ôl yr angen. Mae newidiadau pellach hefyd yn cael eu hargymell i'r broses bresennol ar gyfer cynnal ymchwiliadau ac adolygu marwolaethau yn y dyfodol. | The health board is undertaking a review of all cases that are open to the coroner with the process taking corrective action where necessary, and recommending further changes to the current process for future investigations and mortality reviews. |
At hynny, rwyf hefyd wedi cyfarfod â dau o uwch-grwneriaid y Gogledd. Gwnaethant fynegi eu rhwystredigaeth ynghylch y diffyg gwersi a ddysgwyd yn y gorffennol, yn y sefydliad ei hun, a'r diffyg o ran y paratoadau ar gyfer cynnal cwestau. Mewn ymateb i'r pryderon difrifol hyn, comisiynodd fy swyddogion adolygiad annibynnol o bryderon diogelwch cleifion. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi caeladroddiadyr adolygiad hwn erbyn hyn, er mwyn gweithredu arno, a bydd Gweithrediaeth y GIG yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod systemau a gweithdrefnau llywodraethu ansawdd a diogelwch yn ymateb i'r materion. | I have also met with both of the north Wales senior coroners, when they have expressed their frustration about an historic lack of learning within the organisation and poor preparation for inquests. In response to these serious concerns, my officials commissioned an independent review of patient safety concerns. Thereportfrom this review is with the health board for action and the NHS Executive will be working with the board to ensure that the quality and safety governance systems and procedures respond to these issues. |
Mae'r ddyletswydd ansawdd a'r ddyletswydd gonestrwydd newydd yn nodi gofynion newydd ar gyfer cyrff GIG Cymru i fod yn agored ac yn dryloyw gyda defnyddwyr gwasanaethau pan fyddant yn profi niwed wrth dderbyn gofal iechyd, i sefydlu systemau rheoli ansawdd effeithiol sy’n canolbwyntio ar ddysgu ac ymyrryd yn gynnar i atal niwed, ac i ystyried sut y bydd eu penderfyniadau yn gwella gofal iechyd yn y dyfodol. | The new duties of quality and candour set out new requirements for NHS Wales bodies to be open and transparent with service users when they experience harm whilst receiving health care, to establish effective quality management systems that focus on learning and early interventions to prevent harm, and to consider how their decisions will improve health care in the future. |
Datganiad Ysgrifenedig: Y camau nesaf ar gyfer Strategaeth Ddiwylliant i Gymr | Written Statement: Next steps for a Culture Strategy for Wales |
Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon, a Thwristiaeth | Dawn Bowden MS, Deputy Minister for Arts, Sport and Tourism |
Mae datblygu Strategaeth Ddiwylliant i Gymru yn un o'r ymrwymiadau allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio o fewn fy mhortffolio, a hoffwn ddiolch i'r Aelod Dynodedig am ei gwaith adeiladol a’i chefnogaeth wrth i'r strategaeth ddatblygu. | Developing a Culture Strategy for Wales is a key Programme for Government and Co-operation Agreement commitment within my portfolio, and I thank the Designated Member for her constructive engagement and support throughout this work. |
Ar ôl cynnal ymarfer ymgysylltu eang yn 2023, a oedd yn cynnwys cyfleoedd i drafod gyda mwy na 400 o randdeiliaid y sector a chynrychiolwyr cymunedol, datblygwyd strategaeth ddrafft a oedd yn amlinellu'r weledigaeth a'r uchelgais hirdymor. Aed ati wedyn i brofi'r strategaeth honno gyda phartneriaid cymdeithasol a nifer cyfyngedig o bartneriaid cyflawni. | Following an extensive engagement exercise in 2023, which included opportunities for discussion with over 400 sector stakeholders and community representatives, a draft strategy outlining long-term visions and ambitions was developed and tested with social partners and a limited number of delivery partners. |
Mae grŵp llywio annibynnol, ac arno gynrychiolwyr o'r sector, gan gynnwys ymarferwyr llawr gwlad a llawrydd, wedi bod yn craffu ar y gwaith o ddatblygu'r strategaeth. Cyfarfûm â'r Aelod Dynodedig a chyd-gadeiryddion Grŵp Llywio'r strategaeth ddiwylliant yn dilyn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Gwnaethom gydnabod y penderfyniadau anodd yr ydym wedi gorfod eu gwneud yn y Llywodraeth a'r heriau y mae'r gyllideb yn eu golygu i'r sector diwylliant yng Nghymru ond gan ailddatgan fy ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth newydd eleni. | The work of scrutinising the development of the strategy has been undertaken by an independent Steering Group consisting of sector representatives including grassroots and freelance practitioners. Following the publication of the Welsh Government’s draft budget in December I met with the Designated Member and the co-chairs of the Steering Group, acknowledging the difficult decisions we have had to make in Government and the challenges the budget presents for the culture sector in Wales, but also reaffirming my commitment that the Welsh Government would progress a new strategy this year. |
Roeddem yn cytuno dylem oedi a myfyrio, a rhoi amser inni ddeall yn iawn effaith cynigion y gyllideb ar y sector, a thros y ddau fis diwethaf, rydym wedi mireinio a symleiddio’r Strategaeth ddrafft. Rwy'n falch o gadarnhau bod y Grŵp Llywio, yr Aelod Dynodedig a chydweithwyr yn y Cabinet yn cytuno â mi bod y Strategaeth bellach yn barod i'w chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac rydym yn paratoi ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ym mis Mai ac yn para am wyth wythnos. | We agreed that we should pause and reflect on the impacts of the budget proposals on the sector, and the draft Strategy has been refined and streamlined accordingly over the last two months. I am pleased to confirm that the Steering Group, Designated Member and Cabinet colleagues agree with me that the Strategy is ready to be published for public consultation, which we are preparing for at present. The consultation will be launched in May and run for eight weeks. |
Byddwn i’n annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol diwylliant yng Nghymru i ddarllen y Strategaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Rwy'n credu'n gryf mai dyma'r Strategaeth gywir ar gyfer yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae’n rhoi cyfeiriad strategol i’n sectorau diwylliant ac yn nodi’n glir ein huchelgeisiau tymor hir ynghyd â’r blaenoriaethau hyblyg ac addasadwy y byddwn yn canolbwyntio arnynt i’w cyflawni. | I would encourage everyone with an interest in the future of culture in Wales to read the Strategy and participate in the consultation. I strongly believe this is the right Strategy for the current financial climate. It provides strategic direction for our cultural sectors, and clearly states our long-term ambitions, while setting out the flexible and scalable priorities we will focus on to achieve them. |
Datganiad Ysgrifenedig: Penodi Cadeirydd Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe | Written Statement: Chair to Hywel Dda and Swansea Bay University Health Boards |
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Eluned Morgan MS, Minister for Health and Social Services |
Yn dilyn proses penodiad cyhoeddus agored ac yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Neil Wooding wedi’i benodi’n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Jan Williams yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r penodiadau hyn yn amodol ar wrandawiadau cyn penodi a gynhelir ar 25 Ebrill 2024. | Following an open public appointment process and in accordance with the Governance Code on Public Appointments, I am delighted to announce the appointment of Neil Wooding as Chair of Hywel Dda University Health Board and Jan Williams as Chair of Swansea Bay University Health Board. These appointments are subject to pre-appointment hearings which are taking place on the 25 April 2024. |
Datganiad Ysgrifenedig: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2024-25 | Written Statement: Flood and Coastal Erosion Risk Management Programme 2024-25 |
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd | Julie James MS, Minister for Climate Change |
Rwy'n falch o roi gwybod ein bod wedi cyhoeddi Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) ar gyfer 2024-2025. O ystyried y pwysau enfawr ar adnoddau'r sector cyhoeddus ar hyn o bryd ynghyd â chwyddiant digynsail yng nghostau adeiladu, mae hon wedi bod yn un o raglenni mwyaf heriol y blynyddoedd diwethaf. Er hynny, rydyn ni’n dal i fod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein seilwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Y llynedd, gwnaethom sicrhau bod dros £75m ar gael i Awdurdodau Rheoli Risg. Byddwn yn gwneud yr un peth eleni. Rydym yn cynnal y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad wrth inni barhau i gyflawni yn erbyn ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i leihau perygl llifogydd i dros 45,000 o eiddo. | I am pleased to announce the publication of the Flood and Coastal Erosion Risk Management Programme for 2024 -2025. Given the enormous pressure on public sector resources at this time, combined with unprecedented construction inflation, this has been one of the most challenging programmes of recent years. However, we remain committed to investing in our flood and coastal risk management infrastructure. Last year we made over £75m available to Risk Management Authorities (RMAs). This year we will do the same. We are maintaining record levels of investment as we continue to deliver against our Programme for Government commitment to reduce flood risk to over 45,000 properties. |
Byddwn yn buddsoddi £34m o gyllid cyfalaf mewn cynlluniau newydd ledled Cymru. Mae dadansoddiad llawn a map o'r buddsoddiad hwn wedi'u cyhoeddi arein gwefan. Rydym hefyd yn cynnal y lefelau uchaf erioed o gyllid refeniw i'n Hawdurdodau Rheoli Risg a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru i ymgymryd â gweithgarwch perygl llifogydd drwy gydol y flwyddyn. Mae Awdurdodau Rheoli Risg yn defnyddio eu cyllid refeniw i gynnal asedau, codi ymwybyddiaeth, rhybuddio a hysbysu, cyflogi staff ac ymchwilio i lifogydd. Mae Canolfan Monitro Arfordirol Cymru yn darparu gwell data a gwybodaeth i'n Hawdurdodau Rheoli Risg i fod yn sail gadarn i benderfyniadau ar sail tystiolaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol Morol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a rhanddeiliaid allanol. | We will invest £34m capital funding in new schemes throughout Wales. A full breakdown and map of this investment has been published onour website. We are also maintaining record levels of revenue funding to our RMAs and the Wales Coastal Monitoring Centre to undertake flood risk activities throughout the year. RMAs use their revenue funding to maintain assets, on awareness raising, warning and informing, to employ staff and to undertake flood investigations. The Wales Coastal Monitoring Centre provide our RMAs with improved data and information to underpin robust evidence-based decision making for Maritime Local Authorities, NRW and external stakeholders. |
Mae'r cyfnod hir o dywydd gwlyb yr ydym wedi'i brofi ledled Cymru y gaeaf hwn wedi ein hatgoffa eto pam mae angen y buddsoddiad hwn. Mae hi’n argyfwng hinsawdd arnon ni ac mae’r atmosffer yn cynhesu ac yn cadw mwy o ddŵr. Er ymdrechion rhyngwladol, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd yn dal ar gynnydd. Mae'r gaeaf hwn, felly, ymhlith y 10 cynhesaf a'r 10 gwlypaf erioed ar gofnod ar gyfer y DU. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n profi ei wythfed gaeaf gwlypaf, ac mae newydd gofnodi ei Chwefror cynhesaf erioed. Mae Rhagolygon diweddaraf ar gyfer Hinsawdd y DU yn dangos y bydd lefelau’r môr yn codi dros fetr yn y 100 mlynedd nesaf, a bydd mwy law a stormydd yn cynyddu’r perygl o lifogydd yn fawr. | The prolonged period of wet weather we have experienced across Wales this winter has provided yet another reminder as to why this investment is necessary. We are in the midst of a climate emergency and our atmosphere is heating up and retaining more moisture. Despite international efforts, global greenhouse gas emissions continue to rise. That is why this winter is in the top 10 warmest and top 10 wettest on record for the UK. Wales is currently experiencing its 8thwettest winter, and just recorded its warmest ever February. The latest UK Climate Projections show that sea levels are projected to rise by over a metre in the next 100 years, whilst increased rainfall and storminess will significantly increase the risk of flooding. |
Ym mis Tachwedd, daeth Storm Babet â llifogydd eang i ogledd Cymru gan effeithio ar dros 100 eiddo yn Sir y Fflint. Ar ôl cyfnod y Nadolig, effeithiodd llifogydd yn sgil Stormydd Gerrit a Henk ar bron i 40 eiddo yn ne Cymru. Ym mis Hydref, effeithiodd llifogydd ar 26 eiddo yn Sir Gaerfyrddin pan na lwyddodd y seilwaith yng Nglan-y-fferi na Llansteffan i wrthsefyll y glaw trwm parhaus. Wrth i’r hinsawdd droi’n wlypach, bydd ein hafonydd a’n rhwydwaith draeniau o dan bwysau cynyddol. Ond rhaid wynebu’r heriau hyn i gadw’n cymunedau’n saff. Dyna’r rheswm pam ein bod wedi gosod targedau uchelgeisiol i ni’n hunain yn ein Strategaeth Genedlaethol a’r Rhaglen Lywodraethu. | In November, Storm Babet brought widespread flooding to North Wales and over 100 properties were flooded in Flintshire. After Christmas, Storms Gerrit and Henk flooded nearly 40 properties in South Wales. In October, 26 properties in Carmarthenshire were flooded when persistent heavy rain overwhelmed infrastructure in Ferryside and Llansteffan. As our climate becomes wetter, our river and drainage networks are under increasing pressure. But we know we must rise to these challenges to keep our communities safe. That is why we have set ourselves ambitious targets through our National Strategy and Programme for Government. |
A dyna pam fy mod mor ddiolchgar i’n Hawdurdodau Rheoli Risg a fydd yn ein helpu i daro’r targedau hyn. Mae CNC a’r awdurdodau lleol yn gweithio’n ddiflino i ddatblygu cynlluniau newydd, i ddarparu rhybuddion, i ymateb i ddigwyddiadau ac i gynnal a chadw nifer aruthrol o asedau ledled Cymru. Mae llawer iawn o'n seilwaith rheoli perygl llifogydd yn anweladwy. Gallai fod yn gwlfert tanddaearol, arglawdd glaswellt bach mewn parc, neu bant wrth ymyl ffordd. Mae angen monitro a chynnal a chadw pob un ohonynt. Mae staff ein Hawdurdodau Rheoli Risg yn cadw miloedd o asedau i weithio, drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw’n gweithio gyda’u cymunedau i’w gwneud yn fwy cydnerth ac i’w helpu i addasu. Rwy'n ddiolchgar am eu hymdrechion. | And that is also why I am so grateful to our RMAs, who will help us meet these targets. NRW and local authorities work tirelessly to develop new schemes, provide warnings, respond to incidents and maintain vast numbers of assets across Wales. A great deal of our flood risk management infrastructure is invisible. It might be an underground culvert, a small grass embankment in a park, or swale by a road. Every asset requires monitoring and maintenance. Our RMA staff keep thousands of assets working, all year round. They work within their communities to increase resilience and support community adaptation, and I am grateful for their efforts. |
Er mwyn helpu ein hawdurdodau lleol i reoli mân lifogydd lleol, byddwn yn darparu £4.2m iddynt i gyflawni 74 o gynlluniau drwy ein grant gwaith graddfa fach. Ers ei gyflwyno 8 mlynedd yn ôl, mae awdurdodau lleol wedi croesawu'r grant hwn yn frwd. Mae'r broses ymgeisio symlach yn rhoi'r cyfle iddynt wneud gwelliannau cyflym a chosteffeithiol i'r seilwaith presennol. Oherwydd eu maint, mae cynlluniau graddfa fach yn aml yn cael eu cyflawni gan gwmnïau adeiladu lleol, gan ddarparu budd i'r economi leol. | To help our local authorities manage localised minor flooding, we will be providing them with £4.2m to deliver 74 schemes via our small scale works grant. Since its introduction 8 years ago, the small scale works grant has been incredibly well received by local authorities. The simplified application process gives them the opportunity to carry out quick and cost-effective improvements to existing infrastructure. Due to their size, small scale schemes are often delivered by local construction firms, providing a benefit to the local economy. |